Newyddion S4C

Dyn wedi marw mewn ffrwydrad yn yr Alban

Ffrwydrad fflatiau yn Alloa

Mae un dyn wedi marw a thri arall wedi’u hanafu ar ôl ffrwydrad mewn bloc o fflatiau yn yr Alban.

Cafodd criwiau tân, yr heddlu a'r gwasanaeth ambiwlans eu galw i Alloa yn Sir Clackmannan am tua 18:00 nos Sul.

Roedd adroddiadau bod yna ffrwydrad wedi bod mewn bloc o fflatiau.

Mae un dyn a oedd tu mewn i'r fflatiau wedi ei ladd. Fe fu farw yn y fan a'r lle. Dydy o ddim wedi cael ei adnabod yn ffurfiol eto. 

Cafodd tri o bobl eraill o'r un bloc o fflatiau eu cludo i Ysbyty Brenhinol Forth Valley i gael triniaeth ar gyfer mân anafiadau.

Mae'r heddlu yn dweud eu bod yn dal yn ceisio deall amgylchiadau yr hyn a ddigwyddodd ac wedi diolch i'r gymuned leol am eu cefnogaeth i'r ymchwiliad. 

Fe adawodd criwiau brys leoliad Kellie Place tua 22:15pm, meddai llefarydd ar ran y gwasanaeth tân.

Mae Neuadd y Dref Alloa wedi cael ei hagor fel lle i bobl eraill oedd yn byw yn y fflatiau aros wrth i waith nwy a thrydanol gael ei wneud.

Llun: Paul Smith /X

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.