'Dewch â nhw adref': Nodi blwyddyn ers ymosodiadau Hamas ar Israel
'Dewch â nhw adref': Nodi blwyddyn ers ymosodiadau Hamas ar Israel
Union flwyddyn ers yr ymosodiadau gan Hamas ar Israel a ddechreuodd y gwrthdaro presennol yn y Dwyrain Canol, mae newyddiadurwyr Newyddion S4C Rhodri Llywelyn a Gwyn Loader wedi teithio i’r rhanbarth.
Dyma eu hargraffiadau.
‘Dyw gwraig Omri Miran heb glywed dim ers mis Ebrill.
Roedd y tad i ddwy o ferched bach yn un o’r 251 o bobl gafodd eu herwgipio gan Hamas ar 7 Hydref, 2023. Mae’n dal yn gaeth yn Gaza - yn fyw neu’n farw.
I nodi blwyddyn ers yr ymosodiad roedd Lishay Miran yn annerch torf o fil o bobl ar gyrion dinas Sderot, tua chilometr o Gaza.
Esboniodd yn emosiynol mai dim ond mewn lluniau mae ei merch ieuengaf yn adnabod ei thad. Roedd Alma yn chwe mis oed pan ddaeth ymladdwyr Hamas i’w cartref yn Kibbutz Nahal Oz yn ne Israel.
Ddeuddeg mis yn ddiweddarach dim ond tair oed yw Roni sy’n dweud “nos da, dwi’n dy garu di” o’i gwely pob nos gan obeithio y daw Dad yn ôl i’w deffro un dydd.
Mae Omri yn un wyneb mewn oriel o wystlon. Y baneri melyn sy’n cael eu dal yn yr awyr yw symbol yr ymgyrch i’w rhyddhau.
Mae teimlad cryf nad yw Prif Weinidog Israel Benjamin Netanyahu yn gwneud digon.
“Ma’ nhw’n wystlon i Netanyahu yn ogystal â Hamas” yn ôl Lishay Miran.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae Israel wedi lladd tua 42,000 o bobl yn Gaza, ac yn fwy diweddar wedi ymosod ar Libanus gan achosi ail argyfwng dyngarol yn ôl y Cenhedloedd Unedig.
Degawdau o ormes
Mynnu mae Palestiniaid sydd wedi bod yn siarad â ni dros y dyddiau diwethaf mai degawdau o ormes gan Israel sy’n gyfrifol am ymladd y flwyddyn ddiwethaf, nid trais Hydref y seithfed.
Mae pentrefwyr Al-Mughayyir ar y Lan Orllewinol yn egluro bod setlwyr Israelaidd yn llosgi tai, lladd anifeiliaid ac yn ymosod ar Balestiniaid yn rheolaidd.O dan gyfraith rhyngwladol mae setliadau Israelaidd yn yr ardal yma yn anghyfreithlon.Ond ma’ nhw’n dal i dyfu a thensiynau’n codi.
Dadl Benjamin Netanyahu mewn araith danllyd dros y penwythnos oedd bod gan Israel yr hawl a’r dyletswydd i amddiffyn ei phobl. Mae’n rhyfela, meddai, ar saith ffrynt - Y Lan Orllewinol, Gaza, Libanus, Syria, Irac, Yemen ac Iran.
Dyw’r ieithwedd ymosodol yn gwneud dim i dawelu’r pryderon am ryfel llawn ar draws y Dwyrain Canol.
’Nôl yn Sderot “dewch â nhw adref ” yw cri teuluoedd y gwystlon i guriad cyson ffrwydradau draw yn Gaza.
Flwyddyn gron ers ymosodiadau Hydref y seithfed, does dim diwedd i’r dioddef.
Bydd rhaglen arbennig o Newyddion S4C yn fyw o Israel am 19:30 nos Lun.