Newyddion S4C

Cyhuddo dyn yn dilyn digwyddiad yn Rhondda Cynon Taf

Heddlu.

Mae Heddlu De Cymru wedi cyhuddo dyn 27 oed mewn cysylltiad â digwyddiad yn y Porth, yng Nghwm Rhondda nos Wener. 

Mae Liam Thomas Jones wedi ei gyhuddo o glwyfo’n fwriadol, bod ag arf ymosodol yn ei feddiant mewn man cyhoeddus ac ymosod trwy guro.

Dywedodd y llu nad ydyn nhw’n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad ac maen nhw wedi diolch i dystion “am eu cefnogaeth i'r ymchwiliad”.

Mae dyn 28 oed wedi cael anafiadau nad sy'n bygwth ei fywyd.

Mae disgwyl i Liam Thomas Jones ymddangos yn Llys Ynadon Merthyr Tudful fore Llun.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.