Newyddion S4C

10,000 yn fwy o blant mewn tlodi ers i Lafur ddod i rym medd elusen

S4C

Mae tua 10,000 yn rhagor o blant yn y DU yn byw mewn tlodi ers i'r Blaid Lafur ffurfio llywodraeth yn San Steffan.

Dyna honiad elusen Child Poverty Action Group (CPAG).  

Maen nhw'n dweud bod hynny o achos trefniant cefnogaeth ariannol i deuluoedd â phlant. Hwn yw'r cynllun dadleuol lle mae rhieni yn medru hawlio credyd treth plant a chredyd cynhwysol ar gyfer eu dau blentyn cyntaf yn unig, yn y rhan fwyaf o aelwydydd.  

Cafodd y cyfyngiad i ddau blentyn yn unig ei gyhoeddi gyntaf gan y Ceidwadwyr yn 2015. Daeth i rym yn 2017.

Yn ôl y Child Poverty Action Group, mae angen newid y polisi ar unwaith.  

Mae'r llywodraeth wedi nodi droeon na all ddileu'r polisi dadleuol, oherwydd cyflwr y pwrs cyhoeddus.

Ond cynyddu mae'r pwysau ar lywodraeth Syr Keir Starmer i ail ystyried gyda rhai aelodau seneddol Llafur yn cefnogi galwadau elusennau ac ymgyrchwyr. 

Ddydd Llun mae'r Senedd yn ail ymgynnull yn San Steffan wedi seibiant oherwydd cynadleddau'r pleidiau gwleidyddol.

Mae amser yn brin medd yr elusen. 

Dywedodd prif weithredwr yr elusen Alison Garnham: "Mae'r cloc yn tician tra bo tlodi plant yn cynyddu, a'r cyfyngiad hwn i ddau blentyn sy'n bennaf gyfrifol am y cynnydd.

"Ei ddileu yw'r modd mwyaf cost effeithiol i atal rhagor o blant rhag cael eu gwthio i dlodi".

Mae Llywodraeth y DU wedi ffurfio tasglu, gyda gweinidogion yn ystyried y sefyllfa bresennol.

Mae'r elusen yn croesawu hynny ond yn pwysleisio bod y difrod yn gwaethygu bob dydd. Maen nhw'n galw ar i'r polisi gael ei ddileu yn y Gyllideb nesaf.  

Yn ôl ymchwil diweddar gan yr Institute for Fiscal Studies, gallai newid y polisi godi 540,000 o blant yn y DU allan o dlodi.

Yr amcangyfrif ydy y byddai hynny yn costio £1.7 biliwn y flwyddyn i Lywodraeth San Steffan ac y gallai godi i £2.5 biliwn y flwyddyn. 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.