Dau blentyn a dynes wedi eu hanafu gan bedwar ci
06/10/2024
Mae dau blentyn a dynes wedi eu cludo i ysbyty ar ôl i bedwar ci ymosod arnyn nhw yn ne-ddwyrain Llundain.
Digwyddodd yr ymosodiad yn Orpington, toc cyn 09:00 fore Sadwrn.
Yn ôl Heddlu'r Met, cafodd y plant sy'n bedair a chwech oed a dynes 30 oed eu darganfod wedi eu hanafu gan blismyn.
Dyw eu hanafiadau ddim yn rhai sy'n peryglu eu bywyd.
Mae dynes wedi ei harestio ar amheuaeth o fod â chwn sydd yn beryglus ac allan o reolaeth.
Mae'r cŵn bellach yng ngofal yr heddlu, wrth i'r ymchwiliad barhau.