Ail ethol Joseff Gnagbo yn gadeirydd Cymdeithas yr Iaith
Mae Joseff Gnagbo wedi ei ail ethol yn gadeirydd Cymdeithas yr Iaith.
Mae'n ail gydio yn yr awenau wedi cyfarfod cyffredinol y mudiad ym mhentref Bow Street, ger Aberystwyth.
Cafodd Joseff Gnagbo ei ethol am y tro cyntaf fis Hydref 2023.
Daeth i Gymru ar ôl ffoi o'r Traeth Ifori yng ngorllewin Affrica, gan fynd ati i ddysgu Cymraeg.
Gan adlewyrchu ar ei flwyddyn gyntaf yn y rôl, a’r ymgyrchoedd a fydd yn parhau yn ei ail dymor, pwysleisiodd fod gwaith eto i'w gyflawni: "Pan gymerais yr awenau fel Cadeirydd, roeddwn yn gwybod y byddai’r frwydr dros y Gymraeg yn un heriol.
“Gyda’n gilydd, rydym wedi parhau i ymladd dros hawliau’r Gymraeg, adeiladu ar sylfeini’r rhai a ddaeth o’n blaenau, ac rydym wedi parhau i bwyso am newid.
“Dros y tymor diwethaf, rydym wedi cymryd camau mawr ymlaen. Rydym wedi dwysau’r frwydr dros Ddeddf Eiddo i amddiffyn ein cymunedau Cymraeg, ac rydym yng nghanol brwydr galed i sicrhau Deddf Addysg Gymraeg i Bawb.
“Rydym wedi codi llais y gymuned Gymraeg ei hiaith yn gyson, gan bwyso am newid polisi a dal sefydliadau i gyfrif.”
Ychwanegodd ei bod yn "anrhydedd" cael ei ethol yn gadeirydd am ail dymor.
Llun: Cymdeithas yr Iaith