Newyddion S4C

Cannoedd mewn protest dros ddyfodol Canolfan Coed y Brenin

Cannoedd mewn protest dros ddyfodol Canolfan Coed y Brenin

Daeth cannoedd o bobl ynghyd ar safle Coed y Brenin ger Dolgellau ddydd Sadwrn i brotestio yn erbyn cynlluniau i gau'r ganolfan ymwelwyr ar y safle. 

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru eisoes wedi cyhoeddi eu bod yn ystyried cau 265 o swyddi, gyda "phob aelod o staff ym mhob canolfan ymwelwyr yn wynebu cael eu diswyddo" 

Mae argymhellion diweddaraf y corff amgylcheddol yn cynnig peidio parhau i redeg caffis a siopau mewn tair canolfan ymwelwyr, sef  Coed y Brenin a Bwlch Nant yr Arian ac Ynys Las yng Ngheredigion. 

Ond mae'r corff amgylcheddol yn pwysleisio y byddai llwybrau, mynediad, meysydd parcio, a thai bach yn parhau ar y safleoedd hynny.

Mae menter gymunedol Caru Coed y Brenin, oedd yn protestio ar safle Coed y Brenin ddydd Sadwrn, yn awyddus i gymryd rheolaeth o'r ganolfan ymwelwyr, ond mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi  rhybuddio y gallai'r broses honno gymryd rhai blynyddoedd.

Yn ôl y cynghorydd lleol Delyth Lloyd Griffiths, sydd yn rhan o grŵp Caru Coed y Brenin, mae angen cadw holl gyfleusterau'r safle ar agor.

“Dydyn ni ddim eisiau i unrhyw elfen o’r lle hwn gau, rydyn ni ei angen ar gyfer beicwyr, cerddwyr a phobl leol," meddai. 

Dywedodd llefarydd ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru eu bod yn edrych ar draws eu holl gylch gwaith ac yn adolygu'n "feirniadol" yr hyn y gallan nhw ac y mae'n rhaid iddyn nhw barhau i'w wneud. 

Unwaith y bydd y penderfyniadau terfynol wedi eu gwneud, byddan nhw’n gallu gweithio gyda phartneriaid i chwilio am atebion yn y dyfodol, meddai'r sefydliad. 

Ond maen nhw'n dweud nad oes modd cynnig unrhyw ddatrysiadau hyd nes bydd y bwrdd yn gwneud y penderfyniadau terfynol ddechrau Tachwedd.

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.