Cludo Prydeinwyr ar y daith awyren olaf o Libanus
Wrth i'r gwrthdaro ddwysáu yn y Dwyrain Canol, bydd dinasyddion Prydeinig yn gadael Libanus ar y daith awyren olaf i'r Deyrnas Unedig yn ddiweddarach ddydd Sul.
Mae mwy na 250 o Brydeinwyr eisoes wedi gadael ar ôl i Lywodraeth San Steffan drefnu teithiau awyr ar eu cyfer.
Mae'r Ysgrifennydd Tramor David Lammy wedi annog unrhyw un sy'n awyddus i adael Libanus i gofrestru eu cais ar unwaith er mwyn archebu sedd ar yr awyren ddydd Sul.
Rhybuddiodd nad oes sicrwydd y bydd opsiynau eraill wedi'r daith hon.
Dyma'r pedwerydd hediad yn cludo Prydeinwyr o faes awyr Rafic Hariri yn Beirut.
Yn ôl Llywodraeth y Deyrnas Unedig, does dim taith arall wedi ei threfnu, ond bydd y sefyllfa yn cael ei "hadolygu yn gyson".
Mae hawl gan ddinasyddion Prydain, eu partneriaid, a phlant o dan 18 oed i archebu sedd ar yr awyren.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Tramor: “Mae'r sefyllfa yn Libanus yn parhau i fod yn beryglus, felly rwy'n falch ein bod wedi helpu nifer o bobl sydd wedi gwrando ar ein cyngor i adael y wlad ar unwaith.”
Mae tua 700 o filwyr Prydain a swyddogion y Swyddfa Dramor a'r Swyddfa Gartref wedi eu hanfon i ynys Cyprus, rhag ofn y bydd angen symud bobl ar frys.