Newyddion S4C

Y nifer fwyaf erioed yn rhedeg hanner marathon Caerdydd

06/10/2024
Hanner marathon Caerdydd

Fe fydd nifer o strydoedd y brifddinas ynghau fore dydd Sul wrth i ddegau ar filoedd o bobl redeg yn hanner marathon Caerdydd.

Mae 29,000 o redwyr wedi cofrestru ar gyfer y ras eleni, y nifer fwyaf erioed yn ôl y trefnwyr.

Mae’n gyfle i bobl ar draws Cymru a thu hwnt i redeg y ras 13.1 milltir drwy ganol y ddinas.

Oherwydd y niferoedd, fe fydd carfanau yn cychwyn ar wahanol amserau gyda’r ras cadeiriau olwyn yn dechrau am 09:50

Castell Caerdydd yw'r man cychwyn cyn i'r rhedwyr fynd heibio Stadiwm Principality, Stadiwm Dinas Caerdydd, i Farina Penarth ac yna heibio Canolfan y Mileniwm i lyn Parc y Rhath a gorffen yng nghanol y brifddinas.

Mae Trafnidiaeth Cymru yn darparu gwasanaethau trên ychwanegol i ddod â rhedwyr a gwylwyr i’r brifddinas cyn y ras, ond bydd gwaith peirianyddol yn amharu ar rai llwybrau rheilffordd eraill.

Dywedodd prif weithredwr y trefnwyr Run4Wales, Matt Newman: "Dyma ein blwyddyn fwyaf erioed gyda dros 29,000 o bobl wedi cofrestru i gymryd rhan dros y penwythnos."

Mae'r nifer fwyaf erioed o redwyr rhyngwladol yn cymryd rhan eleni, gyda 10% a fydd yn cymryd rhan yn yr hanner marathon yn rhedwyr o dramor.  

5% oedd y ffigwr yn 2023. 

Mae'r mwyafrif wedi teithio i Gaerdydd o Sbaen, Yr Almaen, Portiwgal, Yr Eidal, Denmarc, Ffrainc a'r Iseldiroedd, gyda rhedwyr o America, Seland Newydd a Mecsico hefyd yn cymryd rhan. 

A bydd bron 100 yn bresennol o Frasil. 

Mae'r rhagolygon y tywydd yn addo glaw fore Sul, gydag ysbeidiau heulog ar ôl 11:00.

Mae'r rhedwyr yn cael eu hannog i gynllunio eu taith i'r brifddinas ymlaen llaw gan gofio y bydd rhai ffyrdd ar gau ar fore’r ras.

Mae’r manylion am y ffyrdd sydd wedi cau i’w gweld yma.

Llun: Hanner Marathon Caerdydd

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.