Newyddion S4C

Arestio protestwyr yn Llundain wrth i filoedd ymgynnull dros hawliau Palesteiniaid

Protest Balesteinaidd

Mae protestwyr wedi eu harestio wrth i ddegau ar filoedd o bobl ymuno â phrotest yng nghanol Llundain dros hawliau Palesteiniaid. 

Cafodd y brotest ei threfnu bron flwyddyn ers ymosodiadau 7 Hydref yn Israel. 

Mae 17 o bobl wedi eu harestio yn ôl Heddlu'r Met.  

Cafodd un person ei arestio ar amheuaeth o gefnogi sefydliad sydd wedi ei wahardd.

Mae saith o bobl wedi eu harestio ar amheuaeth o gyflawni troseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus, gyda thri yn ymwneud â chymhelliad hiliol honedig. 

Mae tri o bobl wedi eu harestio ar amheuaeth o ymosod ar weithiwr argyfwng, a thri arall ar amheuaeth o ymosod. 

Dywedodd y llu bod rhai ohonyn nhw wedi eu harestio, wrth i bobl geisio mynd heibio plismyn a oedd wedi gosod rhwystrau er mwyn atal grwpiau rhag gwahanu o'r brif brotest.

Fe ddaeth y protestwyr ynghyd fore Sadwrn yn Bedford Square, gyda nifer fawr o blismyn yn bresennol.

Yn ôl trefnwyr y brotest, y bwriad yw "targedu" cwmniau a sefydliadau sydd yn "gysylltiedig â throseddau Israel" sy'n cynnwys Banc Barclays a'r Amgueddfa Brydeinig, medden nhw.  

Ymgasglodd nifer y tu allan i gangen Barclays yn Tottenham Court Road am gyfnod cyn teithio draw i'r Amgueddfa Brydeinig.    

Yn Bedford Square, roedd rhai yn cario baneri Libanus ac Iran gyda nifer yn gweiddi  "Rhyddid i Balesteina". 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.