Pedwar o fudwyr gan gynnwys plentyn wedi marw yn y sianel
Mae pedwar o fudwyr, gan gynnwys bachgen dwy oed, wedi marw wrth geisio croesi’r sianel, yn ôl yr awdurdodau yn Ffrainc.
Dywedodd y gweinidog mewnol Bruno Retailleau fod y bachgen wedi cael ei “sathru i farwolaeth mewn cwch”, gan ddweud ei bod yn “drasiedi ofnadwy” a bod gan smyglwyr pobl “waed y bobl hyn ar eu dwylo”.
Dywedodd cynrychiolydd ardal Pas-de-Calais Jacques Billant fod gwylwyr y glannau Ffrainc wedi ymateb i gwch a oedd yn cludo bron i 90 o bobl ar ei bwrdd ac roedd yr injan wedi methu.
Cafodd cyfanswm o 15 o bobl eu hachub gan gynnwys y bachgen a oedd yn anymwybodol ac er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau achub fe gyhoeddwyd ei fod wedi marw.
Ychwanegodd Mr Retailleau fod 83 o bobl ar fwrdd llong arall ger Boulogne a bod gwylwyr y glannau wedi dod o hyd i dri o bobl oedd yn anymwybodol ar waelod y cwch.
Dywedodd eu bod nhw “yn ôl pob tebyg wedi eu gwasgu a’u mygu yn ystod y gwthio a’u boddi yn y 40 centimetr o ddŵr oedd yn bresennol yn y cwch".
“Er gwaethaf ymyrraeth y meddygon, cyhoeddwyd eu bod wedi marw. Dau ddyn a dynes ydyn nhw, y tri tua 30 oed," meddai.
Yn ôl adroddiadau, roedd 395 o fudwyr wedi cyrraedd y DU ar ôl croesi'r sianel o Ffrainc ddydd Gwener.
Daw hyn â’r cyfanswm am y flwyddyn i 25,639.