‘Pwysig mynd i’r afael â naratif digartrefedd’, meddai Tywysog William 

05/10/2024
S4C

Mae Tywysog Cymru wedi dweud ei bod yn bwysig “mynd i’r afael â’r naratif ynghylch digartrefedd” mewn rhaglen ddogfen.

Bydd y rhaglen - Prince William: We Can End Homelessness - yn cael ei darlledu yn fuan ar ITV.

Mae’n dilyn y tywysog yn ystod blwyddyn gyntaf ei fenter Homewards, sy’n ceisio mynd i’r afael â phob math o ddigartrefedd.

Dywedodd y Tywysog William: “Rwy’n meddwl ei bod yn bwysig iawn ein bod yn gallu ceisio newid, a mynd i’r afael â’r naratif ynghylch digartrefedd.

“Mae pobl yn byw gydag e, rydyn ni'n ei weld bob dydd yn ein bywydau, mae hynny'n rhywbeth rydw i eisiau ei herio.”

Bydd yn cynnwys uwch swyddog tân yn mynd â dyn oedd yn ddigartref am gyfnod hir i gwrdd â'r Tywysog William.

Roedd Diana, Tywysoges Cymru, yn arfer mynd â William a'i frawd Harry i lochesi digartref i ehangu eu gorwelion.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae timau Homewards mewn chwe lleoliad yn y DU, gan gynnwys Casnewydd, wedi bod yn datblygu'r elfen gydweithio rhwng y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector gyda’r nod o osod sylfeini.

Nod Homewards yw datblygu atebion pwrpasol i ddigartrefedd yng Nghasnewydd yn ogystal â Poole, Bournemouth, Christchurch, Lambeth a Sheffield yn Lloegr, Belfast yng Ngogledd Iwerddon ac Aberdeen yn yr Alban.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.