Cofio damwain trên Ladbroke Grove 25 mlynedd yn ôl
Mae teuluoedd a gollodd anwyliaid yn namwain trên Ladbroke Grove union chwarter canrif yn ôl wedi gosod blodau ger safle'r drychineb.
Bu farw 31 o bobl a chafodd mwy na 220 eu hanafu pan darodd trên yn erbyn trên cyflym tua dwy filltir o orsaf Paddington, yng ngorllewin Llundain toc wedi 08:00 ar 5 Hydref 1999.
Dyma un o'r trychinebau gwaethaf ar y rheilffyrdd yn hanes y DU.
Cafodd seremoni ei chynnal mewn gardd goffa ger safle'r gwrthdrawiad am 8 o'r gloch fore Sadwrn, wrth i flodau gael eu gosod a chafodd canhwyllau eu cynnau hefyd.
Cafodd enwau'r 31 a gafodd eu lladd eu cyhoeddi yn unigol, cyn munud o dawelwch.
Cafodd blodau eu gosod gan deuluoedd y rhai a fu farw, y rhai a oroesodd y drychineb, a chynrhychiolwyr ar ran y gwasanaethau brys a'r diwydiant rheilffyrdd.
Cynrychiolwyr ar ran Comisiwn Coffa Tŵr Grenfell osododd y dorch olaf o flodau, sef y sefydliad a gafodd ei ffurfio i gofio am 72 o bobl a gafodd eu lladd wedi tân mewn bloc o fflatiau yn Llundain yn 2017.
Golau coch
Daeth ymchwiliad i drychineb Ladbroke Grove i'r casgliad bod un o'r trenau a oedd yn teithio o Paddington i Bedwyn yn Wiltshire wedi mynd drwy olau coch cyn taro'n erbyn y trên cyflym First Great Western a oedd ar ei ffordd i Lundain
Dywedodd Mark Phillips, prif weithredwr Bwrdd Diogelwch a Safonau ar y Rheilffyrdd: “Profodd y diwydiant rheilffyrdd un o'i ddiwrnodau tywyllaf yn Ladbroke Grove 25 mlynedd yn ôl.
“Yn sgil y drasiedi hon, cafodd gwersi eu dysgu, ac oherwydd cyd-weithio, gwaith caled a thechnoleg fodern, mae rheilffyrdd Prydain bellach ymhlith y rhai mwyaf diogel yn y byd.
“Rydym yn parhau i fod ar ein gwyliadwaeth, ac o hyd yn edrych am welliannau pellach.
“Mae ein meddyliau yn parhau gyda theuluoedd a ffrindiau'r rhai a fu farw a'r rhai a gafodd eu hanafu.”