Y Seintiau Newydd yn teithio i Lansawel yn y Cymru Premier JD
Ar ôl chwarae 10 o gemau cynghrair, triawd o’r de sy’n arwain y ffordd yn y Cymru Premier JD gyda Phen-y-bont driphwynt yn glir ar y brig, a Met Caerdydd a Hwlffordd yn yr 2il a’r 3ydd safle.
Mae’r pencampwyr, Y Seintiau Newydd yn y 5ed safle ac wedi colli dwy o’u saith gêm gynghrair hyd yma, ond gyda thair gêm wrth gefn bydd criw Craig Harrison yn hyderus o allu cau’r bwlch ar y ceffylau blaen.
Mae’n edrych yn ddu ar Aberystwyth sydd wedi llithro i waelod y tabl ar ôl colli saith gêm yn olynol am y tro cyntaf erioed yn yr uwch gynghrair.
Ar ôl colli eu chwe gêm agoriadol ers eu dyrchafiad i’r uwch gynghrair, mae Llansawel wedi dechrau tanio gan fynd ar rediad o dair gêm heb golli a churo’r clwb ar y copa.
Mae’r Seintiau mewn safle anghyfarwydd, yn dechrau’r penwythnos yn y 5ed safle ar ôl colli dwy o’u saith gêm gynghrair hyd yma.
Mae’r pencampwyr wedi bod yn brysur yn cystadlu’n Ewrop eleni, ac roedd hi’n noson hanesyddol i’r clwb yn Florence nos Iau yn eu gornest gyntaf erioed yng Nghyngres UEFA yn erbyn un o gewri’r Eidal, Fiorentina.
Aeth Llansawel ar y blaen yn erbyn y Seintiau yn rownd wyth olaf Cwpan Cymru y tymor diwethaf, ond sgoriodd y Seintiau bum gôl yn yr hanner awr olaf i sicrhau buddugoliaeth swmpus (Llan 1-5 YSN).
Record cynghrair diweddar:
Llansawel: ❌❌➖✅➖
Y Seintiau Newydd: ✅✅❌❌✅
Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a’r gorau o gyffro’r penwythnos ar S4C nos Lun.