Newyddion S4C

Cymru Premier JD: Caernarfon yn teithio i'r brifddinas i herio Met Caerdydd

Sgorio
Met Caerdydd

Ar ôl chwarae 10 o gemau cynghrair, triawd o’r de sy’n arwain y ffordd yn y Cymru Premier JD gyda Phen-y-bont driphwynt yn glir ar y brig, a Met Caerdydd a Hwlffordd yn yr 2il a’r 3ydd safle.

Mae’r pencampwyr, Y Seintiau Newydd yn y 5ed safle ac wedi colli dwy o’u saith gêm gynghrair hyd yma, ond gyda thair gêm wrth gefn bydd criw Craig Harrison yn hyderus o allu cau’r bwlch ar y ceffylau blaen.

Mae’n edrych yn ddu ar Aberystwyth sydd wedi llithro i waelod y tabl ar ôl colli saith gêm yn olynol am y tro cyntaf erioed yn yr uwch gynghrair.

Bydd Met Caerdydd yn awyddus i gadw’r pwysau ar Ben-y-bont a chymryd cam yn nes at hawlio lle yn y Chwech Uchaf eleni.

Er colli ambell chwaraewr profiadol ar ddiwedd yr ymgyrch ddiwethaf mae gan y myfyrwyr saith pwynt yn fwy eleni nac oedd ganddyn nhw ar y pwynt yma’r tymor diwethaf.

Ar ôl dechrau araf i’r tymor mae’r canlyniadau wedi gwella’n ddiweddar i Gaernarfon gyda’r Cofis yn sicrhau 10 pwynt allan o’r 12 posib yn eu pedair gêm gynghrair ddiwethaf.

Dyw Caernarfon heb golli dim un o’u pum gêm ddiwethaf oddi cartref yng Nghampws Cyncoed (ennill 3, cyfartal 2), ond y myfyrwyr oedd yn dathlu ar yr Oval ym mis Awst wedi i Ryan Reynolds rwydo’r gôl fuddugol yn erbyn ei dref enedigol (Cfon 1-2 Met).

Record cynghrair diweddar:

Met Caerdydd: ͏✅❌✅✅❌

Caernarfon: ❌✅➖✅✅

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio a’r gorau o gyffro’r penwythnos ar S4C nos Lun.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.