Newyddion S4C

Athro yn gwadu ymosod ar fachgen 16 oed

Athro yn gwadu ymosod ar fachgen 16 oed

Yn Llys ynadon Llanelli, mae athro wedi gwadu ymosod ar fachgen 16 oed yn Sir Gaerfyrddin.

Mae Llyr James, 31 oed, wedi'i gyhuddo o ymosod ar Llŷr Davies ar 9 Mawrth yn ystod noson allan yng Nghastell Newydd Emlyn.

Roedd Llyr James yn dysgu yn Ysgol Bro Teifi, Llandysul ar y pryd.

Bu farw Llŷr Davies, disgybl blwyddyn 11 yn Ysgol Bro Teifi, dridiau yn ddiweddarach yn chwarel Gilfach yn Sir Benfro. 

Clywodd y llys nad oedd cysylltiad rhwng yr ymosodiad a'r farwolaeth.

Mae'r achos yn parhau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.