Hypnotherapydd o Ddolgellau wedi ‘teimlo fel fi eto’ ar ôl triniaeth
Hypnotherapydd o Ddolgellau wedi ‘teimlo fel fi eto’ ar ôl triniaeth
“Dwi’n teimlo fel fi eto.”
Dyma eiriau hypnotherapydd sy’n wreiddiol o Ddolgellau yng Ngwynedd wedi iddi benderfynu hyfforddi yn y maes ar ôl cael triniaeth hypnotherapi yn dilyn cyfnod heriol yn ei bywyd.
Yn athrawes anghenion arbennig ar y pryd, bu'n rhaid i Einir Dwyfor Trimble gymryd absenoldeb salwch o’r gwaith er mwyn ceisio mynd i’r afael â’i phroblemau iechyd meddwl.
Ac yn dilyn genedigaeth ei hail ferch, fe waethygodd symptomau Einir wrth iddi ddechrau dioddef ag iselder ôl-eni ym mis Ebrill 2019.
A hithau “mewn twll” yn feddyliol ac yn defnyddio meddyginiaeth gwrth-iselder, fe aeth Einir at hypnotherapydd ym Machynlleth ym mis Rhagfyr 2020.
Er ei bod yn amheus i ddechrau, dywedodd mai hypnotherapi “yn bendant” oedd y rheswm iddi wella, ac fe benderfynodd hyfforddi fel hypnotherapydd ym Medi 2021 yn sgil hynny.
Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd: “Dwi jyst yn cofio chwarae gyda’r genod ar y llawr a meddwl, ‘Dwi’n teimlo fel fi eto.’
“’Odd y cwmwl tywyll ‘na o’r post-natal depression o’r diwedd wedi mynd, ac o’n i’n fi eto.
“Oedd o oherwydd yr hypnotherapi, definitely, a felly dyna pam ‘nes i edrych amdan hyfforddi i ‘neud o’n hun oherwydd o’n i’n gwybod faint ‘odd o wedi helpu fi ac o’n i eisiau helpu pobl eraill hefyd.”
‘Tawelu meddwl’
Wedi genedigaeth ei hail ferch fe gafodd Einir ei hargymell gan ei bydwraig i ddechrau sesiynau cwnsela, ond fe gymerodd 10 mis cyn iddi dderbyn llythyr yn ei gwahodd i’w sesiwn gyntaf yng Nghaerfyrddin, meddai.
Mae’n dweud y gallai hypnotherapi fod yn opsiwn arall all pobl mewn sefyllfa debyg eu hystyried er mwyn helpu “shifftio'r meddwl.”
A hithau bellach yn cynnig sesiynau hypnotherapi yn Abertawe wedi iddi symud i Bontardawe yn ddiweddar, mae Einir yn helpu menywod yn bennaf i fynd i’r afael ag amrywiaeth o broblemau iechyd meddwl a chorfforol – o straen ag iselder, i golli pwysau ag ymdopi gyda phoen arthritis.
Dywedodd mai nod y sesiynau yw helpu pobl i ymlacio, codi hyder a chyflwyno dulliau newydd o ddelio â straen.
Ac mae cynnig gwasanaeth o’r fath drwy’r Gymraeg hefyd “mor bwysig” er mwyn caniatáu i bobl drafod eu problemau iechyd meddwl yn eu hiaith eu hunain, meddai.
‘Caniatâd’
Mae’n awyddus i dawelu ofnau pobl sy’n teimlo’n bryderus am fynd at hypnotherapydd am gymorth.
Ac yn wahanol i sioeau hypnosis poblogaidd, mae’n dweud na fyddai’n gallu gorfodi unrhyw un i wneud rhywbeth yn erbyn eu hewyllys.
“Os ti’n mynd i sioe hypnosis da, ti'n gwybod bod rhywbeth gwirion yn mynd i ddigwydd, ac os da chi’n rhoi eich llaw i fyny i fynd ar y llwyfan da chi mewn ffordd yn rhoi caniatâd i’r person ‘na," meddai.
“Ond os da chi’n dod i therapi, da chi ddim isio ‘neud y pethau ‘na so da chi ddim yn agored iddo fo."
‘Ddim i bawb’
Yn ôl pennaeth polisïau elusen Mind Cymru, Simon Jones, gall hypnotherapi fod “yn ddefnyddiol” i bobl sy’n ceisio mynd i’r afael â symptomau gorbryder, ffobiâu, straen, dicter neu ddibyniaeth.
Dywedodd hefyd y gallai sesiynau helpu “newid meddwl ac ymddygiad digroeso” pobl sy’n dioddef a phroblemau iechyd meddwl.
Ond mae hefyd yn annog pobl i sicrhau bod y driniaeth benodol y maen nhw eisiau ei derbyn wedi’i “chymeradwyo gan arbenigwr cymwys, ac o bosib yn cael ei defnyddio ochr yn ochr â thriniaethau eraill oherwydd fel arall, gall achosi symptomau i waethygu".
“Nid yw hypnotherapi’n addas i bawb a dyw pawb ddim yn teimlo’n gyfforddus yn cael eu hypnoteiddio, na chwaith yn teimlo ei fod yn gweithio iddyn nhw," meddai.
“Mae’n bwysig eich bod yn siarad gyda’ch meddyg teulu neu arbenigwr iechyd meddwl os ydych yn ystyried newid eich triniaeth neu’n pryderu o gwbl."