Newyddion S4C

Efeilliaid cerddorol o Fôn yn cystadlu yn erbyn ei gilydd yn y Royal Albert Hall

Efeilliaid cerddorol o Fôn yn cystadlu yn erbyn ei gilydd yn y Royal Albert Hall

Bydd efeilliaid cerddorol o Fôn yn cystadlu yn erbyn ei gilydd am y tro cyntaf y penwythnos hwn, a hynny ar lwyfan y Royal Albert Hall.

Bydd 20 o fandiau pres gorau’r wlad yn cystadlu ym Mhencampwriaeth Bandiau Pres Prydain ddydd Sadwrn. Ymhlith y cerddorion fydd yn chwarae ar y llwyfan enwog fydd Wil a Morgan Marston.

Wedi blynyddoedd lawer o gyd-berfformio, fe fydd y bencampwriaeth yn dro ar fyd i’r efeilliaid 29 oed, sy’n hanu o Star ger Llanfairpwll, gan eu bod yn cystadlu yn erbyn ei gilydd mewn gwahanol fandiau.

Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Morgan: “Mae hon yn gystadleuaeth rili sbesial i'r ddau ohonon ni.

"Hwn di’r tro cynta am amsar rili hir i’r ddau ohonan ni chwarae yn Llundain. Da ni’n erbyn ein gilydd, sydd ddim cweit yr un peth, ond dwi’n edrych ymlaen.”

Image
Morgan a Wil yn y fyddin
Morgan a Wil yn eu hamser gyda'i gilydd yn y fyddin

Yn dod o deulu cerddorol, roedd y brodyr yn wyth oed pan ddechreuodd eu taith i fod yn offerynwyr o safon. Ond fel gefeilliaid, roedd yn rhaid canfod ffordd deg o benderfynu pwy oedd yn cael chwarae ba offeryn.

Dywedodd Morgan: “Pan oeddan ni’n fach, natho ni joinio Band Porthaethwy ag mi oeddan nhw efo euphonium a chornet – sut ydan ni’n penderfynu pwy sy’n cael pa un?

“OK ta - rock, paper, scissors. A Wil enillodd, so fo gafodd dewis. Wnaeth o ddewis yr euphonium a nesh i chwarae’r cornet, a dyna’r unig reswm pam.”

Y llwyfan mawr

Y tro diwethaf i’r ddau gymryd rhan yn y bencampwriaeth gyda’i gilydd oedd fel rhan o Fand Pres Biwmares, pan roedden nhw’n fechgyn 17 oed.

Yn dychwelyd eleni, bydd Morgan, sydd yn byw yn Llundain, yn cynrychioli’r band Friary, o dde Lloegr. Bydd Wil, sydd bellach yn byw yn Llantrisant ar gyrion Caerdydd, yn cynrychioli Band Pres Cwm Ebwy, gyda’i wraig, Ffion.

Fel y prif chwaraewr corn band Friary, bydd gan Morgan rôl bwysig i chwarae ddydd Sadwrn, tra bod gan Wil gyfrifoldeb mawr yn ogystal fel y prif chwaraewr tiwba ym mand Cwm Ebwy.

Image
Y Royal Albert Hall
Y Royal Albert Hall

Dywedodd Morgan: “Does na ddim lot o stages fel yr Albert Hall ac mae Wil wedi chwarae yna mwy na fi pan yn chwarae i fand arall.

“Ond y tro yma, da ni’n dau yn y top seats. Mae o’n top tuba a dwi’n solo horn, so mae’r ddau ohonan ni efo lot o waith.

“Mae na un point yn y darn lle mae’r band i gyd yn dropio allan a just yr horn sy’n chwarae, totally solo

"Dwi’n cofio yn y contest dwytha nesh i neud, oedd na solo tebyg a pan oni’n chwarae, nath watch fi buzzio yn gofyn ‘Are you working out?’ achos roedd heart rate fi ar 170, roedd fy nghalon yn neidio allan o fy mrest!

“Ond mae o’n rush, ac os mae’n mynd yn dda i fi, fydda i ar cloud nine.  Ond os wyt ti’n neud mistêc, ti methu rhoi bai ar neb arall!”

'Anodd' bod ar wahân

Ar ôl cwblhau eu harholiadau Safon Uwch yn Ysgol David Hughes ym Mhorthaethwy, fe wnaeth yr efeilliaid ymuno â’r fyddin fel cerddorion. 

Image
Morgan Marston
Mae Morgan Marston yn rhan o'r Grenadier Guards

Roedd y ddau yn rhan o Gatrawd Tywysog Cymru ym maracs Sain Tathan ym Mro Morgannwg yn wreiddiol, cyn i Morgan symud i Warchodlu'r Grenadwyr (Grenadier Guards), sydd yn gyfrifol am gynnal seremonïau Changing of the Guard tu allan i Balas Buckingham.

Gwta bum mlynedd yn ôl, gadawodd Wil y fyddin a symud i dde Cymru i ddechrau ar yrfa fel plismon ac ymaelodi â band bataliwn y Cymry Brenhinol.

Dyma oedd y tro cyntaf i’r efeilliaid fyw ar wahân, er bod eu cariad am gerddoriaeth yn eu cadw’n agos iawn.

“Mae’n rili anodd,” meddai Morgan. “Mae cael twin brother, mae’r ddau ohonan ni wedi arfer bod efo’n gilydd trwy’r amser, mynd i’r gym efo’n gilydd, gweithio efo’n gilydd.

“Ond da ni dal yn siarad efo’n gilydd bob diwrnod neu ddau ar y ffôn, a chwarae Xbox a phethau felna. So 'da ni dal yn siarad efo’n gilydd llawer mwy na dw i’n siarad efo unrhyw un arall. 

"Ond da ni m'ond yn gweld ein gilydd bob ryw dri mis yn lle byw efo’n gilydd, so mae’n rhyfedd.”

'Excited'

Yn un o bedwar band o Gymru, dyma fydd y tro cyntaf i fand Cwm Ebwy ymddangos yn y rownd derfynol. Mae’r brodyr yn cytuno ar bwy sydd yn debygol o orffen yn uchaf ddydd Sadwrn, ond nid y cystadlu yn unig sydd ar eu meddyliau.

Image
Band Cwm Ebwy
Bydd Wil a'i wraig Ffion yn cystadlu ym Mand Cwm Ebwy

Dywedodd Wil: “Yr aim i fand Cwm Ebwy oedd just i gyrraedd Llundain, felly does dim lot o expectation arnon ni o gwbwl. 

"Dim ond band bach lleol ydan ni so fydd o’n neis gallu enjoio’r profiad o fod ar stage anferthol a hanesyddol. Hwn ydi diwrnod mwya yn hanes y band, absolutely.”

“Mae’r band mae Morgan ynddo fo, y Friary, maen nhw wastad yn agos i’r top end yn y gystadleuaeth. Felly mae’n mynd i fod yn rili diddorol.

“Dwi yn rili excited. Dwi’n gallu aros yn tŷ brawd fi am ddau neu dri diwrnod. 

Image
Morgan a Wil

"Da ni ddim yn gweld yn gilydd cweit gymaint na falle da ni isho, achos oeddan ni’n pretty much yn gwario’r holl amser efo’n gilydd ers talwm. Felly bydd o’n rili neis.

“Dwi’n rili gobeithio ga’i y cyfle i wrando arno fo, neu iddo fo wrando ar ein band ni, just fel bod ni’n gwybod bod 'na rywun yn yr audience yn gwrando sydd eisiau ti wneud yn dda.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.