Newyddion S4C

Gostwng oedran sgrinio'r coluddyn i 50 oed

prawf canser y coluddyn

Mae'r oedran ar gyfer derbyn profion sgrinio'r coluddyn yn gostwng i 50 oed yng Nghymru.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru'r newidiadau ddydd Llun mewn ymgais i "helpu achub mwy o fywydau."

Y llynedd, dywedodd y llywodraeth fod y categori oedran yn gostwng fel bod modd dosbarthu profion i bobol 51-54 oed.  

Canser y coluddyn yw un o'r mathau mwyaf cyffredin o ganser. Mae mwy na 2,000 o bobl yn cael diagnosis bob blwyddyn yng Nghymru.

Mae modd trin y canser yn well ac mae'r gyfradd oroesi wedi cynyddu'n sylweddol pan fo'r math hwn o ganser yn cael ei ganfod yn gynnar.

Bellach bydd pobl 50 oed sydd wedi cofrestru gyda meddyg teulu yn cael cynnig prawf hunan-sgrinio am ganser y coluddyn am y tro cyntaf, ac yn cael pecyn sgrinio drwy’r post.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol Jeremy Miles y gallai'r prawf newydd achub bywydau.

"Rydym wedi ymrwymo i wella canlyniadau canser yng Nghymru, a'r ffordd orau o wneud hyn yw canfod a gwneud diagnosis o ganser ar gam cynharach – mae sgrinio’n ein helpu i wneud hyn.

"Rwy'n falch iawn y bydd miloedd yn rhagor o bobl yng Nghymru yn cael y profion sgrinio'r coluddyn i’w gwneud yn eu cartrefi.

"Rwy'n annog pawb sy'n gymwys i wneud y prawf pan fyddant yn ei dderbyn. Gallai achub eich bywyd."

Fe fydd yn dod i rym yn raddol dros y 12 mis nesaf, meddai Llywodraeth Cymru.

'Annog'

Dros y tair blynedd ddiwethaf, mae’r oedran cymwys ar gyfer profion sgrinio ar gyfer canser y coluddyn wedi cael ei ostwng yng Nghymru. Mae hyn yn unol â’r argymhellion gan Bwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU.

Fe allai'r profion sgrinio ganfod arwyddion o'r clefyd hyd yn oed cyn i'r symptomau ymddangos.

Dywedodd Pennaeth Sgrinio'r Coluddyn Cymru yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, Steve Court bod y profion yn "hanfodol" wrth frwydro canser y coluddyn.

"Mae ei ganfod yn gynnar yn hanfodol yn y frwydr yn erbyn canser y coluddyn, a gall profion sgrinio ganfod arwyddion o'r clefyd hyd yn oed cyn i'r symptomau ymddangos.

"Rwy'n annog pawb sy'n gymwys i gymryd rhan yn y rhaglen hon, sy'n gallu achub bywydau, pan fyddant yn cael eu cit drwy'r post. Gall wella cyfraddau goroesi yn sylweddol trwy ganfod canser yn gynnar, ar gam sy'n ymateb yn well i driniaeth."

 

 


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.