Newyddion S4C

Ysgol Dyffryn Aman: Rheithgor yn gwylio fideo CCTV o'r ymosodiad ar athrawon a disgybl

Ysgol Dyffryn Aman: Rheithgor yn gwylio fideo CCTV o'r ymosodiad ar athrawon a disgybl

Mae'r fideo CCTV o'r digwyddiad uchod wedi ei ddangos i'r llys.

Mae rheithgor wedi gwylio fideo teledu cylch cyfyng gan gynnwys dadansoddiad manwl o symudiadau merch a drywanodd athrawon a disgybl yn Ysgol Dyffryn Aman yn Sir Gaerfyrddin.

Cafodd yr athrawon, a’r disgybl nad oes modd ei henwi, eu hanafu yn yr ymosodiad ar iard yr ysgol yn Sir Gaerfyrddin ar 24 Ebrill.

Mae merch 14 oed yn gwadu tri chyhuddiad o geisio llofruddio. Mae eisoes wedi pledio'n euog i gyhuddiadau llai difrifol o glwyfo gyda’r bwriad o achosi niwed corfforol difrifol.

Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi cyhoeddi rhan o’r fideo camera cylch cyfyng o’r cyfnod cyn ac yn ystod yr ymosodiadau a gafodd ei ddangos i’r rheithgor yn Llys y Goron Abertawe.

Mae’n dangos y diffynnydd yn eistedd yn un o neuaddau yr ysgol. Mae hefyd yn ei dangos y tu allan yn siarad â’r athrawon Liz Hopkin a Fiona Elias ac yna diwedd yr ymosodiad.

Mae’r deunydd CCTV hefyd yn dangos y diffynnydd yn rhedeg tuag at y disgybl a gafodd ei thrywanu.

Image
Y gyllell
Y gyllell a gafodd ei defnyddio. Llun gan Wasanaeth Erlyn y Goron


Clywodd y llys hefyd bod y ferch 14 oed wedi ysgrifennu ei bod “eisiau lladd eraill”.

Gweloddy y rheithgor yn Llys y Goron Abertawe luniau o lyfr nodiadau a ddaeth o gartref merch 14 oed a ymosododd ar yr athrawon Fiona Elias a Liz Hopkin a disgybl arall ar iard yr ysgol.

Clywodd y llys bod y tudalennau’r llyfr nodiadau o’i chartref yn cynnwys darluniau a oedd yn cyfeirio at un o’r athrawon a’r disgybl a gafodd eu trywanu.

Darllenwyd testun o’r llyfr nodiadau i'r rheithgor gan William Hughes KC, ar ran yr erlyniad.

Roedd yn dweud: "Pam ydw i eisiau lladd eraill yr un faint ag ydw i eisiau lladd fy hun? Efallai ei fod yn rheswm arall pam nad ydw i’n ddynol. 

"Pam ydw i'n eistedd o gwmpas trwy'r dydd pan ydw i eisiau symud? Pam ydw i'n teimlo dim byd ond casineb? 

“Os ydw i’n gwybod beth ydw i’n ei wneud pam ydw i’n ei wneud e?."

Roedd tudalen arall yn cynnwys llun, o bosibl o’r disgybl a ddioddefodd yr ymosodiad, a’r geiriau “llosgi person”, “i farwolaeth” a “gallent farw”, gyda gwenoglun hapus gerllaw.

'Enwog'

Yn ystod yr achos llys ddydd Gwener, gwelodd y rheithgor hefyd ddeunydd camera corff yr heddlu o'r ferch 14 oed yn cael ei harestio.

Mae'n dangos y diffynnydd yn cael ei throsglwyddo i orsaf heddlu Llanelli yng nghefn cerbyd heddlu ac yn dweud wrth swyddog ei bod hi, "wpsi", wedi trywanu disgybl.

"Ydyn nhw’n mynd i farw?" gofynnodd.

"Dwi 90% yn sicr y bydd hyn ar y newyddion," meddai.

"Bydd hyd yn oed fwy o bobl yn edrych arna i. Dyna un ffordd o fod yn enwog."

Mae’r achos llys yn parhau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.