'Siom' gyda phenderfyniad i atal TGAU Iaith Arwyddion Prydain
'Siom' gyda phenderfyniad i atal TGAU Iaith Arwyddion Prydain
"Methu credu'r peth ac maen nhw 'di gweithio ar hyn ers blynyddoedd. Mae galw wedi bod. Pam 'sdim hawl i blentyn byddar cael cymwysterau yn iaith ei hunan?
"Mae 'di dod fel hollol sioc a sneb yn gallu credu'r peth."
Mae'r awydd wedi bod o fewn Llywodraeth Cymru i gynnal cwrs TGAU erbyn 2027 ond mae 'na brinder o athrawon.
"Fydd 'na brinder yn y dyfodol os nad ydynt yn hyfforddi BSL i blant. Dw i'n gobeithio ymddeol yn y dyfodol. Dw i ddim yn athrawes ond yn ddehonglydd ond mae'n gyfle i bobl byddar yn y dyfodol fod yn athrawon.
"Ar hyn o bryd, falle bod ddim ond mae 'na ddigon i ddechrau. yst bod dim digon rŵan, dyw e ddim yn esgus i beidio â boddran."
Oes darpariaeth ar hyn o bryd mewn ysgolion uwchradd a chynradd?
"Plant byddar yn draddodiadol yn mynd i ysgolion plant byddar ond maen nhw 'di cau nhw gyd yng Nghymru nawr.
"Yn aml, ti'n gweld un plentyn byddar mewn ysgol gyda communication support worker yn eistedd gyda nhw ond dydyn nhw ddim yn cwrdd â phlant byddar eraill.
"Dydyn nhw ddim yn dysgu am eu diwylliant a maen nhw'n unig iawn."
Ond mae'n wahanol yn Lloegr.
"Yn wahanol iawn yn Lloegr. Mae ysgolion yn arbennig i blant byddar, felly maen nhw'n cwrdd. Yn aml mae plentyn byddar yn meddwl taw nhw yw'r unig un yn y byd nes bod nhw'n cwrdd â phlentyn byddar arall. Dydy hi ddim yn iawn."
Ydyn nhw'n cael eu gadael lawr gan Lywodraeth Cymru?
"Dw i'n credu."
Wna i roi ymateb Llywodraeth Cymru i chi, Fiona.
"Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i gynnwys Iaith Arwyddion Prydain yn ei chwricwlwm."
Maen nhw'n deall bydd siom am benderfyniad Cymhwysterau Cymru i atal datblygiad TGAU.
Ydych chi'n derbyn hynny?
"Na'dw, mae'r Alban wedi llwyddo a Lloegr yn mynd i wneud o."
Faint o help byddai cynnal cwrs TGAU wedi bod?
"Bysai'n newid cymaint â phobl yn deall be mae fel i fod yn fyddar, yn deall yr iaith ac yn rhoi gwaith i oedolion yng Nghymru.
"80% ddim yn gweithio am fod pobl ddim eisiau rhoi gwaith iddyn nhw. Iaith nhw ydy o felly bydden nhw'n gallu dysgu'r plant.
"Yr esgus bod dim digon o athrawon. Maen nhw wedi bod yn gweithio tuag at hyn a mae 'na bobl o gwmpas. Mae eisiau hyfforddi mwy.
"Mae'r adran addysg yn deall y pwnc a pa mor bwysig yw e achos mae'n iaith sy'n cael ei defnyddio yng Nghymru."