Datrys problem llygod ysgol uwchradd yng Nghaernarfon 'yn fuan'
Mae Cyngor Gwynedd wedi dweud y bydd problem llygod cegin ysgol uwchradd yng Nghaernarfon yn cael ei datrys “yn fuan".
Daw'r sylw wedi i rieni plant Ysgol Syr Hugh Owen yng Nghaernarfon gael gwybod ddydd Iau y bydd yn rhaid i ddisgyblion derbyn pecynnau bwyd am gyfnod gan fod llygod wedi’u canfod yn y gegin.
Mewn llythyr at rieni a gwarcheidwaid, dywedodd pennaeth yr ysgol Mr Clive Thomas ei fod yn “cymryd y mater hwn o ddifrif” a’u bod yn cydweithio’n “agos” gyda Chyngor Gwynedd er mwyn datrys y mater yn “brydlon ac effeithiol.”
Mewn datganiad i Newyddion S4C, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd bod swyddogion difa pla wedi ymweld â’r ysgol.
“Mae swyddogion yn delio â’r mater a rydym mewn trafodaethau agos gyda’r ysgol ac yn rhagweld bydd y sefyllfa wedi ei datrys yn fuan,” meddai.
“Rydym ar ddeall fod yr ysgol wedi rhoi trefniadau amgen mewn lle er mwyn sicrhau fod holl ddisgyblion yn gallu parhau i gael cinio ysgol, ac fod Pennaeth yr ysgol wedi llythyru rhieni a gwarcheidwaid i egluro’r sefyllfa iddynt."
Roedd llythur Mr Thomas at rieni wedi nodi y bydd gwasanaeth arlwyo yn darparu pecynnau bwyd i ddisgyblion “nes y bydd yr awdurdod wedi mynd i’r afael yn llawn â’r sefyllfa".