Dedfryd o saith mlynedd o garchar i ddynes am achosi marwolaeth mam o Bwllheli mewn gwrthdrawiad
Dedfryd o saith mlynedd o garchar i ddynes am achosi marwolaeth mam o Bwllheli mewn gwrthdrawiad
Mae dynes o Abertawe wedi cael ei dedfrydu i garchar am saith mlynedd a phedwar mis am achosi marwolaeth mam 28 oed o Bwllheli mewn gwrthdrawdiad ger y Felinheli y llynedd.
Bu farw Emma Louise Morris o Bwllheli ar 3 Ebrill 2023 yn dilyn gwrthdrawiad pedwar cerbyd ar ffordd yr A487 rhwng y Felinheli a Chaernarfon.
Fe ymddangosodd Jacqueline Mwila, 51 oed o ardal Mount Pleasant yn Abertawe, yn Llys y Goron Llandudno ddydd Gwener ar ôl pledio'n euog i achosi marwolaeth Ms Morris drwy yrru'n beryglus.
Fe blediodd yn euog hefyd i achosi anaf difrifol i James Walsh drwy yrru’n beryglus.
Dywedodd Gareth Rogers o’r Uned Ymchwilio Gwrthdrawiadau Difrifol: “Tra bod Mwila nawr yn y carchar am y drosedd hon, does dim byd yn mynd i ddod ag Emma nôl, ac mae ein meddyliau a’n cydymdeimlad gyda’i theulu a’i ffrindiau sydd wedi dioddef dinistr anhygoel.
“Nid oes unrhyw ddedfryd a all fyth gymryd lle’r twll a adawyd yn eu bywydau, ond rydym yn gobeithio y bydd pasio’r ddedfryd hon yn fodd i atgoffa pob gyrrwr y gall colli canolbwyntio am eiliad arwain at ganlyniadau dinistriol.”
'Dim cyfiawnder go iawn'
Mewn datganiad, dywedodd teulu Ms Morris: “Mae wedi bod yn daith hir, poenus a phryderus i gyrraedd y pwynt hwn heddiw o’r diwedd.
“Does dim cyfiawnder go iawn i Emma.
“Achosodd Jaqueline Mwila ei marwolaeth drwy yrru’n beryglus, ac er iddi bledio’n euog i’r holl gyhuddiadau yn ei herbyn, nid yw’r ddedfryd a roddwyd iddi yn mynd yn ddigon pell i ni fel teulu.
“Mae ein bywydau wedi cael eu newid am byth, wedi’u chwalu, wedi’u llurgunio gan ddiffyg sylw a gofal y ddynes hon a ddewisodd yrru mor beryglus a lladd ein merch heb unrhyw ystyriaeth i ddefnyddwyr eraill ar y ffordd y diwrnod hwnnw.
“Byddwn yn ceisio symud ymlaen heb ein Emma hardd. Rhaid i’w dau blentyn wynebu’r dyfodol heb eu mam gariadus. Mae ein poen yn gyson, mae ein calonnau yn parhau i fod wedi torri.”