ASau i drafod newid y gyfraith ar ‘help i farw’
Fe fydd cynigion i newid y gyfraith i roi “dewis ar ddiwedd oes” i bobl sy’n derfynol wael yn cael eu cyflwyno yn San Steffan yn ystod mis Hydref.
Dywedodd yr AS Llafur, Kim Leadbeater ei bod yn gobeithio am drafodaeth "onest a pharchus" pan y bydd y Bil, a fydd yn cael ei gyflwyno ar 16 Hydref, yn cael ei drafod yn Nhŷ’r Cyffredin.
Mae'r sgwrs am ‘gymorth i farw’ wedi bod yn cynyddu yn y flwyddyn ddiwethaf, gyda'r ddarlledwraig y Fonesig Esther Rantzen yn galw am drafodaeth yn y Senedd a phleidlais ar y newid.
Dywedodd ei bod "mor falch ac yn ddiolchgar" am y newyddion, a fydd yn golygu "fod pobl sy'n derfynol wael fel fi yn gallu edrych ymlaen gyda gobaith a hyder y gallwn ni gael farwolaeth dda".
Ychwanegodd: "'Ni feddyliais i fyth y byddwn i'n byw i weld y gyfraith greulon bresennol yn newid.
"Ond hyd yn oed os ydy hi rhy hwyr i mi, dwi'n gwybod y bydd gan filoedd o gleifion sy'n derfynol wael a'u teuluoedd obaith newydd."
Dyma fydd y tro cyntaf i'r pwnc gael ei drafod yn Nhŷ’r Cyffredin ers 2015, wedi ymgais aflwyddiannus i gyflwyno Bil Marwolaeth Gynorthwyedig.
Mae cynorthwyo rhywun i ddiweddu eu bywyd yn erbyn y gyfraith yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon ar hyn o bryd.
Er nad yw'n drosedd benodol yn yr Alban, gall cynorthwyo rhywun i farw arwain at gyhuddiad o lofruddiaeth neu droseddau eraill.
Fe fyddai Bil Ms Leadbeater yn berthnasol i Gymru a Lloegr yn unig.