Newyddion S4C

O Flaenau Ffestiniog i Fiorentina: 'Profiad bythgofiadwy' i Sion Bradley

Sion Bradley

Roedd hi'n 'brofiad bythgofiadwy' cael wynebu un o gewri'r Eidal nos Iau i un o chwaraewyr y Seintiau Newydd, Sion Bradley.

Er mai colli o 2-0 oedd hanes y Seintiau, roedd perfformiad tîm Craig Harrison yn enwedig yn yr hanner cyntaf yn addawol iawn. 

Dyma oedd y gêm fwyaf yn hanes y clwb, a'r Seintiau ydy'r clwb cyntaf o gynghreiriau Cymru i gyrraedd rownd y grwpiau yn un o brif gystadlaethau Ewrop.

Wrth siarad ar ôl y gêm, dywedodd un o chwaraewyr y Seintiau Newydd, Sion Bradley:  "Dan ni gyd yn teimlo'r un peth dwi'n meddwl - jyst y manner nath y gôls fynd i mewn ond natho ni neud yn rili da a dod yma cyn y gêm, dwi'm yn meddwl oedd na neb yn disgwyl y scoreline yma ag i fod yn disappointed efo colli o 2-0, mae o'n deud y cyfan."

"Unwaith gath y draw ei neud, o'n i'n isda yn tŷ efo Mam a Dad yn gwatchad y draw ag o'n i'n deud mai Fiorentina away dwi isio."

Ychwanegodd fod y profiad wedi bod yn agoriad llygad iddo.

"Pan ti'n chwara yn Cae Clyd ym Mlaenau Ffestiniog yn 16, oedda chdi byth yn meddwl fysa chdi'n gallu chwarae mewn stadiums fel 'ma so mae o jyst wedi bod yn eye opener mawr ag experience nai fyth anghofio," meddai.

"Nawn ni gymryd hyder mawr o hwn rŵan, 2-0 yn erbyn Fiorentina, ond awni adra rŵan, genna ni Britton Ferry dydd Sul so nawn ni edrych ymlaen at hwnna rŵan a jyst gobeithio gewn ni cicio on yn y competition rŵan a pigo pwynts i fyny."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.