Newyddion S4C

Galw am fwy o gefnogaeth i gleifion HIV yng Ngogledd Cymru

03/10/2024

Galw am fwy o gefnogaeth i gleifion HIV yng Ngogledd Cymru

Cymryd meddyginiaeth bob dydd.
 
Rhywbeth greddfol i Gary Jones o'r Bala bellach ers ei ddiagnosis o HIV y llynedd.
 
"Cychwynnodd o gyda teimlo'n flinedig ofnadwy a chael heintiau yn fy ngheg, fatha thrush.
 
"Oedd hwnna'n dragwyddol. Mae'n deimlad swreal.
 
"Mae fel bod ti yna ond dwyt ti ddim, fel out-of-body experience.
 
"Ti'n meddwl os 'dy o'n wir neu beidio.
 
"Ti'm yn gwybod lle i droi nesa, dyna oedd y broblem."
 
Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i ymrwymo i atal achosion newydd o HIV erbyn y flwyddyn 2030.
 
Ond, yn ôl Gary, bydd cyrraedd y targed yna'n her.
 
"Dw i'n gorfod mynd i Wrecsam bob tri mis i wneud y lefelau gwaed a chael y feddyginiaeth.
 
"Mae'n awr a hanner bob ffordd ar y bws.
 
"Wnes i ofyn os oedd help ychwanegol a ddeudon nhw, 'If only you lived in England.'
 
"Dyna'r cwbl dw i'n cael yn dragwyddol."
 
Be fysach chi'n hoffi cael?
 
Mwy o gefnogaeth yn y gymuned lle 'dach chi'n byw ynddo?
 
"Mwy o gefnogaeth ar hyd y llefydd gwledig yng Ngogledd Cymru.
 
"Pentrefi a threfi bach."
 
Er yn rhwystr i nifer gorfod teithio'n bell o'u cymunedau i dderbyn meddyginiaeth, mae hynny'n hanfodol yn ôl un arbenigwr.
 
"Mae'r profion yna'n gallu mynd i'r labordy yr un diwrnod.
 
"Fedran nhw ddim mynd at y meddyg teulu achos fydd hi'r diwrnod nesa ar y prawf gwaed yn mynd i'r labordy.
 
"Dyna un peth.
 
"Hefyd, efo'r antiretrovirals, maent yn feddyginiaeth dim ond yr hospital all roi presgripsiwn amdan.
 
"Dw i 'di gweld newid aruthrol dros Gymru, yn enwedig y gogledd.
 
"Nôl yn y '90au, doedd dim service o gwbl i bobl yn byw a HIV."
 
Yn ôl ffigyrau diweddar gan Lywodraeth y DU roedd cynnydd yn nifer y diagnosis HIV ar draws gwledydd y DU llynedd.
 
Cynnydd o 16% yma yng Nghymru.
 
Yn fwy calonogol, mae cyfran y bobl a gafodd ddiagnosis hwyr o HIV wedi gostwng yn sylweddol yng Nghymru.
 
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae gwasanaeth profi gartref arlein Iechyd Rhywiol Cymru wedi gwella mynediad at brofion HIV i lawer.
 
Mae eu cynllun gweithredu HIV, yn ôl nhw yn nodi sut byddan nhw'n cefnogi'r rhai sy'n byw gyda HIV a sut maen nhw'n anelu at ddileu achosion newydd erbyn 2030.
 
Am y tro, bydd Gary yn parhau i deithio i Wrecsam i dderbyn ei feddyginiaeth, ond mae ei neges yn glir.
 
Mae angen mwy o gefnogaeth i gleifion HIV yng nghefn gwlad.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.