Sut fydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050?
03/10/2024
Sut fydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050?
Miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Dyna nod Llywodraeth Cymru, ond sut?
Mae addysg yn elfen hollbwysig.
Mae'r Llywodraeth eisiau sicrhau bod pob disgybl yng Nghymru yn gadael yr ysgol yn medru'r Gymraeg yn hyderus.
Wrth roi tystiolaeth i un o bwyllgorau'r Senedd heddiw dywedodd yr undebau dysgu eu bod yn cefnogi amcanion y Llywodraeth.
Ond, mae pryder am allu ysgolion i gyflawni'r nod a'r effaith ar y gweithlu.
"We used the targets in schools.
"We've had them for every aspect of our working life.
"A target cannot meet by no fault of our own is going to create a level of stress in the workforce that they can't act on."
O ble fydd yr athrawon yn dod?
Yr un oedd y neges gan bob un ohonyn nhw ac a fydd y Llywodraeth yn darparu'r arian a'r adnoddau er mwyn eu galluogi i wneud hyn.
"Un o'n problemau mwya ni yw recritwio a chadw athrawon yn gyffredinol ond yn y sector Gymraeg yn ogystal.
"Mae'n rhaid i ni fynd i'r afael a hynny a rhaid cydnabod mai sgil ychwanegol ydy dysgu yn ddwyieithog."
Er hynny pwysleisiodd UCAC eu bod yn cefnogi'r ddeddfwriaeth gan ddweud bod yr hen drefn o wneud pethau wedi bod yn fethiant.
Bydd Bil y Gymraeg ac Addysg yn gosod targedau iaith ar ysgolion gan gynnwys isafswm lefelau derbyniol.
Os yw ysgol yn dysgu yn bennaf drwy'r Saesneg bydd rhaid i o leiaf 10% o'r addysg fod yn y Gymraeg.
Yn ôl ar yr arolygwyr ysgolion Estyn, mae 'na amrywiaeth mawr ar hyn o bryd yn safon y Gymraeg sy'n cael ei ddysgu mewn ysgolion Saesneg yn bennaf.
"Er gallwch ddadlau bod 10% o'r amser yn cael ei dreulio ar y Gymraeg, dydy o ddim yn cynyddu yn y defnydd o'r Gymraeg sy'n cael ei ddefnyddio erbyn yr amser maent yn gadael.
"Dydyn nhw ddim yn datblygu'r hyder a'r gallu i siarad y Gymraeg."
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod cael gweithlu addysg digonol yn allweddol i weithredu'r Bil a'u bod yn cymryd nifer o gamau i gynyddu nifer yr athrawon sy'n gallu addysgu'r Gymraeg fel pwnc neu addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.
Ond gydag ysgolion dan bwysau sylweddol yn barod a chyllidebau pawb yn dynn, mae 'na bryderon am y baich ychwanegol y gallai'r Bil yma ei osod ar athrawon.