Darganfod llygod yng nghegin ysgol uwchradd yng Nghaernarfon
Mae rhieni plant ysgol yng Ngwynedd wedi cael gwybod y bydd yn rhaid i ddisgyblion derbyn pecynnau bwyd am gyfnod gan fod llygod wedi’u canfod yng nghegin yr ysgol.
Mewn llythur at rieni a gwarcheidwaid, dywedodd pennaeth Ysgol Syr Hugh Owen yng Nghaernarfon eu bod wedi “darganfod presenoldeb llygod” yn y gegin.
Dywedodd Mr Clive Thomas bod yr ysgol yn “cymryd y mater hwn o ddifrif” a’u bod yn cydweithio’n “agos” gyda Chyngor Gwynedd er mwyn datrys y mater yn “brydlon ac effeithiol.”
“Yn y cyfamser, er mwyn sicrhau bod pob disgybl yn cael mynediad at brydau iach, bydd y gwasanaeth arlwyo yn darparu pecynnau bwyd nes y bydd yr awdurdod wedi mynd i’r afael yn llawn a’r sefyllfa," meddai.
Ychwangeodd bod y sefyllfa yn “amlwg yn peri pryder am iechyd a diogelwch ein disgyblion a staff” a bod yr ysgol yn gwerthfawrogi “dealltwriaeth” a “chefnogaeth” rhieni yn ystod y cyfnod hon.
Mae Newyddion S4C wedi cysylltu gyda Chyngor Gwynedd am ymateb.