Dod o hyd i gorff wrth chwilio am ddyn o Aberhonddu
03/10/2024
Mae’r heddlu wedi dod o hyd i gorff wrth chwilio am ddyn o’r enw Geraint oedd ar goll o Aberhonddu.
Roedd y dyn 56 oed o Ffordd Cradoc wedi mynd ar goll ddydd Llun ar ôl cael ei weld am 09.15.
Roedd Tîm Chwilio’r Heddlu, Tîm Achub Mynydd Aberhonddu a Gwasanaeth Awyr Cenedlaethol yr Heddlu wedi bod yn chwilio amdano.
“Gall Dyfed-Powys gadarnhau bod corff wedi’i ddarganfod y prynhawn yma, dydd Iau 3 Hydref, wrth chwilio am Geraint,” meddai’r heddlu.
“Nid yw’r corff wedi ei adnabod yn ffurfiol eto; fodd bynnag, mae teulu Geraint wedi cael gwybod.