Cynghorwyr Gwynedd o blaid dod â thaliadau o £160,000 i Stad y Goron i ben
Mae cynghorwyr Gwynedd wedi pleidleisio dros gynnal trafodaethau i ddod â'u taliadau i Ystad y Goron i ben.
Maen nhw hefyd wedi galw am ddatganoli cyfrifoldeb dros yr ystad i Lywodraeth Cymru.
Y llynedd, fe dalodd Cyngor Gwynedd dros £160,000 i Ystad y Goron er mwyn sicrhau bod y cyhoedd yn cael mynediad i dir yn y sir.
Mae Ystad y Goron yn dweud eu bod nhw’n gweithio gyda Llywodraeth Cymru i greu gwerth ariannol, amgylcheddol a chymdeithasol i Gymru.
Mewn cyfarfod o’r cyngor llawn ddydd Iau, fe wnaeth y cynghorydd Dewi Jones o ward Peblig, Caernarfon, rhoi cynnig i’r cyngor gynnal trafodaethau â Stad y Goron ynglŷn â pheidio codi rhent nes bod sefyllfa ariannol y cyngor wedi gwella.
Roedd y cynnig gan grŵp aelodau Plaid Cymru yn dweud: “Yn 2023, talodd Cyngor Gwynedd gyfanswm o dros £161,000 i Stad y Goron.
“Roedd ffioedd y prydlesi yn 2023 yn amrywio o £35 ar gyfer 'blaen draeth Bangor', i £8,500 ar gyfer 'blaen draeth Dwyfor', i £144,000 ar gyfer 'Hafan Pwllheli'.
“Dylai unrhyw elw a gynhyrchir gan Stad y Goron, yma ar diroedd a dyfroedd Cymru, aros yng Nghymru, er budd ein trigolion a’n cymunedau. Mae cyfrifoldeb dros Stad y Goron eisoes wedi ei ddatganoli i Lywodraeth Yr Alban.”
'Cyllidebau yn cael eu gwasgu'
Wrth gyflwyno'r cynnig yn siambr y Cyngor, dywedodd y Cynghorydd Dewi Jones: “Blwyddyn dwytha mi ddaru Stad y Goron wneud elw o £443 miliwn. Eleni, odd hynny wedi mwy na dyblu i £1.1 biliwn.
“Tra ma cyllidebau Cyngor Gwynedd a chynghorau lleol eraill wedi cael eu gwasgu, da ni’n gweld ein gwasanaethau gwbl allweddol yn cael eu gwasgu a gweld gwasanaethau yn gorfod cael eu torri.
“Da ni’n talu ffigyrau mawr i gorff sydd yn sicr ddim yn brin o arian. Maen nhw’n dal i wasgu ni am bob ceiniog sydd gena ni.
“Fysa hwn yn rhoi mwy o reolaeth i ni. Dod a phenderfyniadau yn agosach at bobol Cymru, at bwy da ni’n rhoi’r trwyddedau yma i a pa gwnniau sy’n cael y trwyddedau yma i ddatblygu gwahanol fathau o ynni ar ein tir ac yn ein moroedd.”
'Cwffio'
Dywedodd Prif Weithredwr yr awdurdod, Dafydd Gibbard, y byddai yn “fwy na hapus” i weithredu ar ran aelodau i drafod gyda Stad y Goron, gan gynnig newid geiriad o’r cynnig gwreiddiol.
Cynigodd rhoi “cyfarwyddyd dipyn bach mwy caled” drwy alw am gynnal drafodaethau ynglŷn â pheidio â thalu rhent yn gyfan gwbl, yn hytrach nag “oedi anfonebau pellach”, fel y cynigwyd yn wreiddiol. Cytunodd Mr Jones â’r diwygiad.
Fe wnaeth 45 bleidleisio o blaid y cynnig, gyda phump yn atal eu pleidlais. Nid oedd unrhyw aelod wedi ei wrthwynebu.
Fe wnaeth Mr Jones hefyd annog awdurdodau lleol eraill Cymru i ystyried mynd “i’r un cyfeiriad”.
Ychwanegodd: “Dwi’n meddwl bod o’n rwbath positif bod pobol Cymru yn sylweddoli be ydi'r canllawiau maen nhw’n byw o dan o fo.
“Be ydi’r fargen, be di’r deal maen nhw’n cael hyn o bryd. A dwi’n meddwl bod o’n gyfrifoldeb ar bob un ohonom ni yma i gwffio dros gael bargen fwy teg ar gyfer ein trigolion ni.
“A dwi’n meddwl bod 'na dipyn mwy o bobl wedi bod yn trafod hwn yn y dyddiau diwethaf, na sydd wedi bod o’r blaen.”
'Ateb gwahanol'
Dywedodd y Cynghorydd Craig ab Iago bod y system bresennol yn “sarhad”, gan ychwanegu ei fod yn disgwyl “ateb gwahanol” i’r galwadau wedi i Lywodraeth Lafur cael ei hethol yn San Steffan.
“Mae’n eithriadol rili,” meddai’r aelod dros ward Penygroes. “Di’r Alban na Gogledd Iwerddon ddim y wynebu’r un fath o insult a da ni’n gorfod wynebu. Ond mae’n amser i ni dyfu i fyny am bod yn oedolion.
“Mae Llafur di bod yn rheoli ni ers dros 25 mlynedd, ond rŵan da ni mewn sefyllfa lle Llafur sydd yn sosialaidd, ac yn coelio yn yr un peth a dan ni’n coelio, yn y Bae ac yn San Steffan.
“So rili, da ni’n disgwyl ateb gwahanol rŵan. Dwi ddim yn clywed lot o bobl Llafur yn y Bae yn galw am hyn rili, mae 'na rai ond dim fel llywodraeth di nhw ddim.
“Ond mae ‘na gyfle rŵan iddyn nhw gydweithio gyda Llafur yn San Steffan, i roi parch i ni am unwaith a thrin ni fel maen nhw’n trin pawb arall.”
Dadleuol
Mae’r cynnig yn ddadleuol, yn ôl yr Aelod o'r Senedd dros orllewin Caerfyrddin a de Sir Benfro Samuel Kurtz.
“Pan dwi’n siarad â chwmnïau sydd am ddod mewn i Gymru – i fuddsoddi mewn diwydiant gwyrdd – dydyn nhw ddim yn sôn am ddatganoli Ystad y Goron,” meddai.
"Maen nhw’n sôn am gynllunio a shwt allwn ni gyflawni cynllunio yng Nghymru – dod â mwy o bobl gyda sgiliau ychwanegol sydd ei angen yn y diwydiant newydd. Dydyn nhw ddim yn siarad am ddatganoli Ystad y Goron."
Mewn ymateb i gynnig cynghorwyr Gwynedd dywedodd llefarydd ar ran Ystad y Goron yn gynharach yn yr wythnos eu bod nhw’n gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau eu bod nhw’n creu gwerth ariannol, amgylcheddol a chymdeithasol, nawr ac yn y tymor hir.