Dedfryd 'cyntaf o'i bath' i ddyn o Abertawe ar ôl cynllwynio i gyflawni 'FGM'
Mae dyn o Abertawe wedi’i ddedfrydu i bedair blynedd a hanner yn y carchar – y person cyntaf i’w gael yn euog yng Nghymru a Lloegr o gynllwynio i anffurfio organau rhywiol merched (FGM).
Fe gafwyd Emad Kaky, 47 oed, yn euog o gynllwynio i gyflawni FGM yn ogystal â gorfodi unigolyn i briodi wedi iddo drefnu i “ferch ifanc” teithio o’r DU i Iraq.
Cafodd ei ddedfrydu yn Llys y Goron Nottingham ddydd Iau yn dilyn achos llys pythefnos o hyd.
Dywedodd y Barnwr Nirmal Shant KC fod cynlluniau’r gŵr yn “farbaraidd”. Dyma'r ddedfryd “cyntaf o’i bath,” yn ôl Gwasanaeth Erlyn y Goron.
Clywodd y rheithgor bod Mr Kaky wedi trefnu a thalu am daith y ferch i Iraq tra oedd ef yn byw yn Nottingham. Daeth tyst o hyd i’w gynlluniau cyn rhoi gwybod i’r heddlu.
Roedd negeseuon ar ei ffôn symudol yn dangos “yn glir” ei fod yn bwriadu cyflawni FGM, medd Gwasanaeth Erlyn y Goron.
Dywedodd tyst ei fod wedi ceisio amddiffyn ei gynlluniau gan eu galw’n “normal.”
'Barbaraidd'
Doedd y ferch dan sylw “ddim yn ymwybodol” o’i gynlluniau, meddai’r bargyfreithiwr Geraldine Kelly wrth y llys.
Roedd wedi'i "barchu" oherwydd ei hanes fel myfyriwr PhD ym Mhrifysgol Nottingham ac roedd colli ei swydd yn “fath o gosb ynddo ei hun,” ychwanegodd.
Dywedodd Janine McKinney, Prif Erlynydd y Goron ar gyfer Gwasanaeth Erlyn y Goron Ddwyrain Canolbarth Lloegr: “Petai wedi llwyddo gyda’i gynlluniau, byddai’r plentyn wedi dioddef poen corfforol a meddyliol na allwch ei ddychmygu.”
Dywedodd Prifysgol Nottingham fod Mr Kaky yn ysgolhaig gwadd pan ddaeth y troseddau i'r amlwg a’u bod wedi dod ag unrhyw berthynas gydag ef i ben wedi iddo gael ei arestio.