Cwmnïau perchnogion Parc Penrhos ym Môn wedi mynd i'r wal
Mae Cyngor Môn wedi dweud bod perchnogaeth a dyfodol Parc Penrhos yng Nghaergybi yn "aneglur" wedi i nifer o gwmnïau perchnogion y safle fynd i'r wal.
Ddechrau mis Ionawr fe ddywedodd cwmni Seventy Ninth Group eu bod wedi cwblhau'r gwaith o brynu'r safle gan gwmni Land and Lakes a'u bod yn bwriadu bwrw ymlaen gyda'r datblygiad gwerth £250 miliwn ar y safle.
Roedd Parc Penrhos i gael ei ddatblygu fel cyrchfan hamdden, gan gynnwys 492 "caban o ansawdd premiwm", meddai'r cwmni ar y pryd.
Mae pencadlys Seventy Ninth Group ar barc busnes yn Southport. Ond mae’r swyddfa honno bellach ar gau, ac nid yw gwefan y cwmni yn bodoli erbyn hyn chwaith. Pan ebostiodd Newyddion S4C Seventy Ninth Group fe gawsom neges yn ôl yn dweud nad oedd y cyfeiriad ebost yn weithredol.
Yn ystod yr wythnosau diwethaf fe roddwyd wyth cwmni sydd yn gysylltiedig â Seventy Ninth Group yn nwylo'r gweinyddwyr - gan godi pryderon ymysg ymgyrchwyr lleol sydd wedi brwydro dros ddyfodol y safle ar yr ynys.
Wrth ymateb i'r datblygiad, dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Sir Ynys Môn, Dylan J. Williams: "Mae'r sefyllfa'n parhau'n aneglur am berchnogaeth a dyfodol safle Penrhos, ac felly ni fyddai'n briodol gwneud sylw pellach."
Ymchwiliad twyll honedig
Ddiwedd mis Chwefror eleni fe gyhoeddodd Heddlu'r Met yn Llundain fod pedwar o bobl wedi eu harestio fel rhan o ymchwiliad i "dwyll eang" honedig yn gysylltiedig â Seventy Ninth Group.
Dywedodd swyddogion eu bod wedi meddiannu "swm mawr" o arian parod, arfau, oriawr ddrud a gemwaith yn dilyn cyrchoedd mewn pum eiddo gwahanol.
Roedd y twyll honedig yn ymwneud â'r cwmni'n cynnig enillion uchel i fuddsoddwyr ar eu benthyciadau.
Cafodd y pedwar oedd wedi eu harestio eu rhyddhau ar fechnïaeth ac fe wnaeth Seventy Ninth Group "wadu'n bendant" eu bod wedi gwneud unrhyw beth o'i le.
'Pryder mawr'
Dywedodd Cyngor Môn ar y pryd fod y newyddion am yr ymchwiliad troseddol yn achos "pryder mawr" i'r cyngor ac nad oedd modd gwneud sylw pellach.
Yr wyth cwmni sydd â chysylltiad gyda Seventy Ninth Group ac sydd wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr yn ddiweddar yw 79th Luxury Living Ltd, Seventy Ninth Aviation Ltd, The 79th Grp Ltd, Seventy Ninth UK Ltd, 79th Luxury Living One Ltd, 79th Leisure Two Management Ltd, 79th Leisure Two Development Ltd a 79th Luxury Living Six Ltd.
Mae Newyddion S4C wedi cysylltu gyda Seventy Ninth Group am ymateb i'r datblygiad diweddaraf.