Newyddion S4C

Cwest: Dyn 28 oedd wedi 'ei garu gan nifer' wedi marw o ganlyniad i hunanladdiad

Alex Meek

Rhybudd: Gall cynnwys yr erthygl hon beri gofid.

Mae cwest wedi clywed bod dyn 28 oed, oedd “yn amlwg” wedi ei “garu gan nifer,” wedi marw o ganlyniad i hunanladdiad.

Fe fuodd Alex Meek, oedd yn adnabyddus fel sefydlydd clwb pêl-droed merched Heolgerrig Red Lion yn ei dref Merthyr Tudful, ar 25 Tachwedd 2023. 

Cafodd cwest i’w farwolaeth ei gynnal gan Grwner Cynorthwyol Canol De Cymru David Regan yn Llys Crwner Pontypridd ddydd Mawrth. 

Clywodd y cwest bod Mr Meek wedi profi “hanes” o hwyliau isel, gan gynnwys teimladau yn wneud â'i ladd ei hun.

Dywedodd y crwner ei fod yn fodlon gyda chanlyniadau’r post-mortem, a gafodd ei gynnal gan Dr Harry Haynes o adran patholeg Sefydliad GIG Ysbytai Great Western yn Swindon.

“Roedd Alex wedi mynegi bwriad clir i ddod â'i fywyd i ben a hynny drwy adael nodyn,” medd Mr Regan. 

Ond roedd aelodau ei deulu wedi cwestiynu amgylchiadau ei farwolaeth yn Llys y Crwner ddydd Mawrth. 

Mewn datganiad, dywedodd ei dad, Paul Meek ei fod yn creu mai negeseuon a galwadau ffôn “bygythiol” oedd achos ei hunanladdiad.

'Dim byd amheus'

Roedd Alex Meek wedi mynd i barti i ddathlu ymddeoliad ei gyd-weithiwr ar nos Wener, 24 Tachwedd 2023. Cafodd lifft gan ei dad i’r digwyddiad yng Nghlwb Llafur Merthyr am tua 18.00. 

Roedd Mr Meek wedi dychwelyd adref, ble'r oedd yn byw gyda’i dad, erbyn 2.30 yn oriau mân y bore. Roedd Paul Meek wedi ei weld yn y gegin adeg hynny ac roedd ei fab yn ymddangos mewn hwyliau da, clywodd y llys. 

Ar ôl deffro am tua 8.00 y diwrnod wedyn, roedd Paul Meek wedi treulio ychydig o oriau allan o’r tŷ cyn dychwelyd adref toc wedi 10.00. 

Fe aeth Mr Meek i chwilio am ei fab yn ei ystafell wely a daeth o hyd i’w gorff. 

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw ac roedd parafeddygon yn bresennol erbyn tua 10.42. Roedd swyddogion yr heddlu yn bresennol ychydig yn ddiweddarach.

Wrth siarad yn y llys ddydd Gwener, dywedodd y Cwnstabl Ditectif Peter Davies o Heddlu De Cymru, oedd yn bresennol adeg marwolaeth Mr Meek: “Doedd dim byd amheus o ran trydydd parti. 

"Roedd yn ymddangos ei fod yn hunanladdiad.” 

'Bygwth'

Dywedodd teulu Alex Meek – gan gynnwys ei dad a’i chwaer Gemma Meek – eu bod nhw'n credu fod negeseuon a dderbyniodd Mr Meek yn yr oriau cyn ei farwolaeth wedi cyfrannu at ei farwolaeth.

Fe glywodd y llys bod Alex Meek wedi mynd am dro gyda chyd-weithiwr benywaidd sydd yn briod, cyn iddo ddychwelyd adref ar ôl noson allan ar 24 Tachwedd.

Clywodd y llys eu bod nhw wedi cael perthynas rhamantus. Mae teulu Alex Meek yn gwadu hyn. 

Roedd gŵr cyd-weithiwr Mr Meek wedi ceisio cysylltu gydag ef wedi hynny. Roedd wedi gyrru negeseuon ato yn ei herio ynglŷn â’i berthynas gyda’i wraig yn ogystal, clywodd y llys.

Fe wnaeth hefyd ffonio ar fore marwolaeth Mr Meek gan ofyn i siarad gydag ef. Fe roddodd ei dad wybod iddo fod ei fab wedi marw.

'Methu'

Roedd swyddogion wedi mynd â ffôn, yn ogystal ag oriawr brand Apple Alex Meek fel rhan o’u hymchwiliad. Ni chafodd tystiolaeth ei gasglu o'r oriawr.

Wrth siarad yn y llys dywedodd y Ditectif Prif Arolygydd o Heddlu De Cymru, James Morris, nad oedd modd iddynt gael gafael ar unrhyw negeseuon ffôn symudol Mr Meek gan nad oedd eu meddalwedd yn eu caniatáu. 

Dywedodd swyddog yr heddlu, Ieuan Price, bod Heddlu De Cymru wedi cysylltu gydag Apple er mwyn ceisio cael mynediad i ffôn Alex Meek. 

Fe gafodd y llu wybod  na fyddai’r heddlu yn gallu cael mynediad i’r ffôn o achos amgrymptiad (encryption) y ddyfais. 

Eglurodd y crwner bod ymchwiliadau’r heddlu bellach wedi dod i ben. 

Dywedodd Paul Meek wrth y llys bod Heddlu De Cymru wedi “methu” eu teulu., a'u bod nhw eisoes wedi cyflwyno dwy gŵyn yn erbyn y llu. 

Roedd Mr Meek yn aelod amlwg yn ei gymuned ac roedd yn chwarae rôl flaenllaw wrth hyrwyddo pêl-droed ar lawr gwlad.

Ar  ôl cychwyn gyda 20 o ferched yn unig, mae Clwb Heolgerrig Red Lion ym Merthyr Tudful bellach yn gartref i dros 170 o chwaraewyr.

Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan S4C.​

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.