'Hynod siomedig': Gwaith cynnal a chadw ar Bont Menai i barhau tan y gwanwyn 2026
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi na fydd gwaith cynnal a chadw sylweddol ar Bont Menai yn dod i ben tan y gwanwyn 2026 - y flwyddyn pan fydd y bont yn dathlu ei 200 mlwyddiant.
Mewn datganiad ddydd Gwener, dywedodd Ken Skates AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru ei fod yn "hynod siomedig" gyda'r oedi yn y gwaith gan UK Highways A55 DBFO Ltd.
"Cawsom sicrwydd ar y pryd y byddai'r gwaith Cam 2 yn cael ei gwblhau erbyn mis Rhagfyr 2025, ac rwy'n gwybod y bydd y newyddion hyn yn siomedig iawn i'r gymuned ac eraill.
"Mae oedran y bont a'r ffaith ei bod yn ased hanfodol i'r ardal yn golygu ei bod yn hollbwysig bod y gwaith yn cael ei gwblhau i'r safonau uchaf i sicrhau ei bod yn parhau i weithredu am y 200 mlynedd nesaf."
Mae'r bont yn agosáu at ei 200 mlwyddiant yn 2026 ac mae angen gwaith cynnal a chadw sylweddol arni i sicrhau ei bod yn parhau i weithredu'n ddiogel am flynyddoedd lawer i ddod meddai Mr Skates.
Oedi
Roedd y gwaith cynnal a chadw newydd, sy'n cynnwys ailbeintio'r bont i gyd, wedi'i gynllunio i ddechrau ddwy flynedd yn ôl ond darganfuwyd diffyg posibl gyda'r hongwyr a olygodd y bu'n rhaid rhoi rhai newydd yn eu lle ar frys.
Cwblhawyd cam cyntaf y gwaith fis Hydref diwethaf.
Caniatawyd i'r bont ailagor i'r holl draffig dros gyfnod y gaeaf; gan ganiatáu i draffig barhau i groesi tra bod gwyntoedd cryfion yn effeithio ar Bont Britannia.
Ychwanegodd Mr Skates yn ei ddatganiad: "Yn anffodus, ac yn hynod siomedig, oherwydd materion caffael, gofynion ychwanegol a materion o ran cael trwyddedau angenrheidiol, mae UK Highways A55 DBFO Ltd wedi rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru nad yw'r gwaith cam 2 bellach yn debygol o gael ei gwblhau tan y gwanwyn 2026.
"Bydd hyn yn arwain at y gwaith yn parhau yn ystod dyddiad 200 mlwyddiant y bont, sef 30 Ionawr 2026, ac nid dyna'r hyn y byddem wedi'i ddymuno.
"Fodd bynnag, mae UK Highways A55 Ltd wedi ymrwymo i ni y byddant yn sicrhau y bydd y gwaith yn cael ei gwblhau ar gyfer cyfnod yr haf er mwyn gwneud yn siŵr y gall y dathliadau, sydd ar hyn o bryd wedi’u cynllunio i gyd-fynd â phen-blwydd Thomas Telford ar 9 Awst 2026 ar anterth y tymor twristiaeth, fynd rhagddynt heb gyfyngiadau a bydd y bont yn cael ei hadfer i'w holl ogoniant."
'Pryderon'
Dywedodd yr aelod o'r Senedd dros Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth, y byddai yn "ergyd enfawr i’r gymuned leol".
“Bu addewid gan Llywodraeth Cymru y byddai’r gwaith wedi’i gwblhau cyn 200 mlwyddiant y bont ym mis Ionawr 2026, ond rwan, bydd rhaid gohirio’r dathliadau hynny sydd wedi’u trefnu gan grwpiau cymunedol lleol," meddai.
"Bydd busnesau’n teimlo’r effaith, bydd teithwyr yn dioddef hyd yn oed mwy o oedi am gyfnod hirach, a bydd pryderon diogelwch o ran sicrhau gallu cyrraedd a gadael yr ynys mewn sefyllfaoedd brys yn parhau."