Arestio dyn 35 oed ar ôl ymosodiad 'asid' ar ferch 14 oed y tu allan i ysgol
Mae dyn 35 oed wedi’i arestio ar amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol ar ôl ymosodiad gydag ‘asid’ y tu allan i ysgol ddydd Llun.
Mae merch 14 oed wedi dioddef anafiadau “allai newid ei bywyd” wedi i’r sylwedd gael ei daflu y tu allan i ysgol Westminster Academy yng ngorllewin Llundain.
Roedd yn rhaid iddi ddychwelyd i’r ysbyty ar gyfer triniaeth bellach wedi iddi gael mynd adref, medd Heddlu’r Met.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Scott Ware o’r llu y gallai bod “peth amser” cyn eu bod nhw'n gwybod pa mor ddifrifol yw ei hanafiadau ond eu bod yn cael ei thrin fel rhai allai newid ei bywyd.
Mae bachgen 16 oed bellach wedi cael mynd adref ar ôl iddo ef hefyd gael ei gludo i’r ysbyty gydag anafiadau.
Dyw ei anafiadau ef “yn ffodus, ddim mor ddifrifol ag anafiadau’r ferch,” meddai.
Digwyddodd yr ymosodiad honedig brynhawn ddydd Llun, toc wedi 16.40.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Scott Ware bod yr heddlu wedi bod yn “gweithio’n ddiflino” er mwyn ddeall yr hyn digwyddodd.
Dywedodd eu bod nhw'n credu bod y dyn sy'n gyfrifol am y drosedd honedig wedi ymosod ar y ddau berson ifanc ar ei ben ei hun gan daflu’r sylwedd atyn nhw cyn ffoi.
“Roedd aelod staff o’r ysgol hefyd wedi dioddef anafiadau wedi iddi ruthro at y bobl ifanc er mwyn rhoi cymorth cyntaf iddyn nhw," meddai.
Cafodd dynes 27 oed ei chludo i’r ysbyty wedi’r digwyddiad ond dywedodd yr heddlu ddydd Mawrth ei bod hi wedi cael mynd adref.