Carchar wedi’i ohirio i ffermwr o Ynys Môn am greulondeb i anifeiliaid
Mae ffermwr o Ynys Môn wedi cael dedfryd o garchar wedi’i gohirio o 18 mis am droseddau gan gynnwys creulondeb i anifeiliaid.
Cafodd gwartheg y ffarmwr eu darganfod wedi eu hesgeuluso ac mewn cyflwr budr, gyda rhai eisoes wedi marw.
Cyfaddefodd Daniel Jones, 30, o Y Glyn, Llannerchymedd, i 13 o droseddau wedi erlyniad gan gyngor yr ynys yn y gwanwyn y llynedd.
Roedd y troseddau yn cynnwys chwech achos o achosi dioddefaint diangen.
Clywodd Llys y Goron Caernarfon ei fod wedi ei rybuddio yn ystod mis Medi 2022 am amodau byw'r anifeiliaid.
Roedd adroddiadau am anifeiliaid wedi trigo ar y fferm a gwnaed nifer o archwiliadau.
Dywedodd y Barnwr Timothy Petts: “Nid yw’n achos o greulondeb bwriadol ond roedd y canlyniadau’n amlwg yn ddifrifol.”
Cafodd Jones orchymyn i wneud 120 awr o waith di-dâl a thalu £8,000 o gostau.
'Trafferth'
Dywedodd y barnwr fod Jones “wedi dweud celwyddau wrth arolygwyr ambell waith”. Roedd nifer o anifeiliaid wedi eu hesgeuluso am amser maith, meddai.
Dywedodd y Barnwr Petts wrth y diffynnydd: “Yn ystod y cyfnod dan sylw roeddech chi wedi rhoi lles eich anifeiliaid ar waelod eich rhestr o flaenoriaethau.”
Dywedodd y barnwr, fodd bynnag, fod Jones yn edifar ac ers hynny wedi gwneud llawer o newidiadau cadarnhaol. Cafwyd adroddiad “gwych” gan filfeddyg.
“Rwy’n cydnabod y byddai dedfryd o garchar ar unwaith yn golygu colli eich fferm,” ychwanegodd y Barnwr Petts.
“Mae esgeulustod wedi digwydd ond rydych chi’n gallu gwneud yn iawn am yr hyn rydych chi wedi’i wneud a bod yn ffermwr gwell yn y dyfodol.”
Dywedodd bargyfreithiwr yr amddiffyniad Richard Edwards bod Jones “wrth ei fodd” yn ffermio ers yn 10 oed.
Fe gymerodd yr awenau o redeg y fferm deuluol ar ôl i'w dad-cu farw ond roedd yna ddiffyg buddsoddiad.
“Roedd ganddo gynllun, roedd yn ceisio ei roi ar waith,” meddai. “Roedd yn amlwg yn cael trafferth wrth reoli a rhedeg y fferm.”
Roedd ganddo bellach 250 erw a 200 o wartheg ar y fferm sydd wedi bod yn y teulu ers 1959.
Roedd mwy na £150,000 wedi ei fuddsoddi mewn adeiladu sied newydd.