Newyddion S4C

Ysgol Dyffryn Aman: Merch 'wedi dweud wrth ffrindiau' y byddai yn trywanu athrawes

Ysgol Dyffryn Aman

Fe wnaeth merch ddweud wrth ei ffrindiau ei bod hi’n bwriadu trywanu un o athrawon Ysgol Dyffryn Aman cyn gwneud hynny, clywodd llys dydd Iau.

Cafodd yr athrawon Fiona Elias, Liz Hopkin a disgybl nad oes modd ei henwi eu hanafu yn yr ymosodiad ar iard yr ysgol yn Sir Gaerfyrddin ar 24 Ebrill.

Mae merch 14 oed yn gwadu tri chyhuddiad o geisio llofruddio. Mae eisoes wedi pledio'n euog i gyhuddiadau llai difrifol o glwyfo gyda’r bwriad o achosi niwed corfforol difrifol.

Ar drydydd diwrnod yr achos yn Llys y Goron Abertawe gwyliodd y rheithgor gyfweliadau'r heddlu gyda rhai o’r disgyblion oedd yn yr ysgol y diwrnod hwnnw.

Dywedodd un disgybl fod y ferch wedi “hanner dangos” y gyllell iddyn nhw.

“Fe wnaeth hi ddweud ei bod hi’n mynd i drywanu Ms Elias a dangos y gyllell i ni,” meddai.

Ond ychwanegodd bod y ferch yn “dweud pethau nad oedden ni’n eu credu o hyd” a'u bod wedi dweud wrthi i “beidio â'i wneud”.

Roedd y sgwrs wedi digwydd tra bod grŵp o ddisgyblion yn eistedd yn neuadd yr ysgol isaf yn ystod amser egwyl, meddai'r tyst.

Doedd dim hawl gan y ferch sydd wedi ei chyhuddo o’r troseddau fod yn yr ystafell, gan fod angen caniatâd pennaeth blwyddyn.

'Fe newidiodd ei hwyneb'

Dywedodd y tyst fod Ms Elias wedi dod i mewn i'r neuadd a gorchymyn i'r cyhuddedig adael ac fe aethon nhw i mewn i'r coridor i gael sgwrs.

“Roeddech chi'n gallu gweld o'r tu mewn i'r neuadd, fe newidiodd (y ferch), newidiodd ei hwyneb cyfan yn berson gwahanol,” meddai.

Ychwanegodd y tyst bod y ferch yn “amharchus” ac “bob amser yn dadlau” gyda Ms Elias.

Dywedodd disgybl arall, oedd yn y neuadd, wrth yr heddlu ei fod hefyd wedi gweld y gyllell.

“Roedd hi’n dal i ddweud pethau fel: ‘Dw i’n mynd i gael fy nghau i ffwrdd am amser hir,’ neu: ‘Fyddwch chi ddim yn fy ngweld i am dipyn.’

“Roeddwn i'n edrych i gyfeiriad fy ffrindiau o hyd, fel: ‘Ai jôc arall arall yw hon?’

“Dywedodd (bachgen) oedd yn eistedd wrth ei hymyl: ‘Beth wyt ti’n mynd i’w wneud, felly?’

“Fe dynnodd hi gyllell allan o'i phoced gan ddweud: ‘Rydw i’n mynd i wneud rhywbeth sy’n cynnwys cyllell.’”

Ychwanegodd y disgybl ei fod wedi “chwerthin” am y peth gan gredu ei fod yn jôc, a cheisiodd ymbellhau oddi wrth y sgwrs.

'Ofnus'

Clywodd y rheithgor hefyd gan dad y ferch, a ddywedodd ei bod hi wedi cael ei bwlio yn yr ysgol.

Gofynnodd Caroline Rees KC, wrth siarad ar ran yr amddiffyniad, a oedd y ferch wedi cwyno am gael ei bwlio.

“Byddai’n dod yn ôl gyda’r nos, a byddai wedi ypsetio, byddai’n honni bod pobl wedi bod yn ei tharo ar y bws yng nghefn ei phen yn ogystal â cham-drin geiriol, gan alw enwau arni - ‘weirdo’ - yn ogystal â phethau eraill.

“Weithiau fe fyddai hi’n ofnus, roedd hi’n deall faint o bobl oedd ddim yn ei hoffi, a’r ffaith ei bod hi’n teimlo bod cymaint o bobl ddim yn ei hoffi.”

Cytunodd ei thad bod yn y misoedd cyn y digwyddiad wedi ei chynhyrfu, a’i bod hi’n ofnus a'i bod hi’n cael amser caled.

Ddydd Iau fe welodd y rheithgor hefyd gyfweliad heddlu gyda myfyriwr arall, a ddywedodd ei fod wedi gweld y ferch yn cael ei tharo ar gefn ei phen bedair neu bum gwaith gan ddisgybl arall.

Yr un disgybl a gafodd ei thrywanu gan y diffynydd ar 24 Ebrill.

Honnir bod y digwyddiad lle y cafodd ei bwrw wedi digwydd tua mis cyn y trywanu.

Mae'r achos llys yn parhau.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.