Newyddion S4C

Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn penodi Prif Weithredwr newydd

03/10/2024
Jonathan Cawley

Mae Jonathan Cawley wedi’i benodi yn Brif Weithredwr newydd ar Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

Bydd yn cymryd yr awenau gan Iwan Jones, y Prif Weithredwr dros dro sydd wedi arwain yr Awdurdod dros gyfnod pontio.

Bydd yn arwain yr Awdurdod drwy ei amcanion o “warchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt, a threftadaeth ddiwylliannol Parc Cenedlaethol Eryri," meddai'r corff.

Ymunodd a’r Awdurdod ym mis Medi 2013 ac mae wedi gweithio fel Cyfarwyddwr Cynllunio a Rheoli Tir am y mwyafrif o’r amser hynny.

Dywedodd Jonathan Cawley bod mynd i’r afael â “heriau newid hinsawdd” yn flaenoriaeth iddo.

“Rwy’n edrych ymlaen at oruchwylio’r ymdrechion i sicrhau bod y Parc Cenedlaethol yn parhau i fod yn amgylchedd cynaliadwy a llewyrchus i’n cymunedau ac ymwelwyr, wrth fynd i'r afael â heriau newid yn yr hinsawdd, dirywiad bioamrywiaeth, ac ymgysylltu cymunedol. 

“Mae’n gyfle ac yn sialens yr wyf yn edrych ymlaen yn fawr i’w wynebu.”

Dywedodd y Cynghorydd Edgar Wyn Owen, Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri: “Rydym yn hyderus y bydd yn darparu’r arweinyddiaeth a’r meddwl arloesol sy'n angenrheidiol i lywio'r Awdurdod drwy'r cyfleoedd a'r heriau sydd o'n blaenau."

Fel Prif Weithredwr, bydd yn canolbwyntio ar gryfhau partneriaethau gyda rhanddeiliaid, gweithredu cynlluniau rheoli’r parc, gwrando ar gymunedau ac ymwelwyr, wrth geisio “gwarchod y tirweddau eiconig a bioamrywiaeth Eryri," meddai'r awdurdod.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.