Pryder am gynnydd achosion Covid-19 yng Ngheredigion
Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi cyhoeddi rhybudd i drigolion yn dilyn cynnydd mewn achosion Covid-19 yn y sir.
Mae’r cyngor yn dweud bod 59 o achosion newydd wedi bod yn yr wythnos hyd at 11 Gorffennaf, gyda’r gyfradd o’r haint bellach yn 81.2 i bob 100,000 o’r boblogaeth dros y sir.
Dywed y cyngor bod y gyfradd i bob 100,000 o’r boblogaeth yn 9.6 bedair wythnos yn ôl, a bod y gyfradd erbyn hyn ar ei huchaf ers diwedd Ionawr 2021.
Mae pryderon am gynnydd yng ngogledd y sir yn arbennig, yn ardaloedd megis Borth a Bontgoch ac ardal gogledd Aberystwyth.
Mae’r cyngor yn annog pobl i barhau i ddilyn canllawiau Covid-19, ac yn annog unrhyw un sydd wedi bod mewn cysylltiad ag unigolyn sydd wedi’i heintio i hunanynysu “ar unwaith”.
Ychwanegodd y cyngor bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi sefydlu clinigau brechu Cerdded i Mewn i alluogi trigolion Ceredigion i gael eu brechlyn cyntaf neu ail frechlyn heb orfod cael apwyntiad.
Llun: Cwmcafit