Kellogg's i greu 130 o swyddi yn y gogledd
Kellogg's i greu 130 o swyddi yn y gogledd
Mae cwmni Kellogg's yn bwriadu creu 130 o swyddi newydd, a hynny yn y "ffatri grawnfwyd fwyaf Ewrop" yng ngogledd Cymru.
Dywedodd Kellanova, y cwmni sy'n cynhyrchu'r grawnfwyd, eu bod yn buddsoddi £75m yn eu safle ar Ystad Ddiwydiannol Wrecsam.
Bydd Kellanova yn dyblu’r cyfanswm o rawnfwyd fel Corn Flakes a Crunchy Nut fydd yn cael ei gynhyrchu ar y safle, gyda’r gobaith y bydd 1.5 miliwn o focsys y dydd yn cael eu paratoi yno.
Daw’r newydd ar ôl i'r cwmni gyhoeddi ym mis Mai eu bod yn bwriadu cau eu ffatri yn Trafford Park ym Manceinion, gan olygu y byddai 360 o bobl yn colli eu swyddi.
Fe gafodd ffatri Wrecsam ei agor gan Kellogg's yn 1978 ac mae'r cwmni eisoes yn cyflogi dros 350 o bobl ar y safle yng Nghymru.
Dywedodd Kellanova fod y datblygiad y buddsoddiad unigol mwyaf yn y DU ers 30 mlynedd, gan ei wneud y ffatri cynhyrchu grawnfwydydd fwyaf yn Ewrop.
Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Kellanova UK, Chris Silcock: “Bydd profiad a galluoedd ein tîm medrus yn Wrecsam yn hanfodol i lwyddiant y trawsnewid hwn sy’n garreg filltir arwyddocaol yn esblygiad ein busnes.
“Rydym yn edrych ymlaen at wneud Wrecsam yn gartref i’n cynhyrchiant grawnfwyd am genedlaethau lawer i ddod.”
Llun: Google Maps