Pryder am nifer y cyn garcharorion yn cysgu ar strydoedd Cymru
Mae'r nifer o gyn garcharorion sy'n cysgu ar y strydoedd yng Nghymru wedi mwy na dyblu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn ôl cadeirydd pwyllgor tai'r Senedd.
Dywedodd John Griffith bod yna gynnydd o 210% wedi bod yn y niferoedd, a rhybuddiodd y gallai'r broblem waethygu yn sgil penderfyniad diweddar Llywodraeth y DU i ryddhau nifer o garcharorion yn gynnar.
Ychwanegodd bod ffigyrau'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn dangos bod 332 o bobl oedd dan ofal y gwasanaeth prawf yng Nghymru yn cysgu ar y strydoedd yn 2022/23.
"Yn amlwg mae'r bobl yma'n fregus, ac os ydym ni eisiau iddyn nhw beidio ail-droseddu, mae'n rhaid i ni sicrhau fod ganddyn nhw gartref sefydlog ac addas," meddai Mr Griffith.
Dywedodd yr aelod Ceidwadol dros dde-orllewin Cymru, Altaf Hussain ei fod wedi ei frawychu gan adroddiad teledu diweddar am y sefyllfa yn Ne Cymru.
"Roedd un dyn gafodd ei holi yn dweud ei fod yn byw mewn mynwent ym Mhenybont, a'i fod yn ystyried ail-droseddu cyn y gaeaf er mwyn cael rhywle cynnes i aros," meddai.
"Mewn trefi ar hyd a lled fy rhanbarth i, ac yn wir ledled Cymru, mae pobl yn gorfod cysgu mewn pebyll neu ar unrhyw ddarn o dir. Ym Mhorthcawl, mae hynny'n cynnwys y brif gylchfan i mewn i'r dref."
Wrth ymateb i'r sylwadau yn y Senedd, dywedodd yr ysgrifenydd tai a llywodraeth leol, Jayne Bryant, ei bod hi'n hanfodol bod y gwasanaeth carchardai ac awdurdodau lleol yn rhannu gwybodaeth.
"Rydym yn gweithio gyda'r gwasanaeth carchardai a'r gwasanaeth prawf er mwyn ystyried beth sydd orau i'w wneud," meddai. "Mae cynghorau lleol yn gweithio cyn gyflymed a phosib i geisio dod o hyd i lety."