'Anfoesol': Galw ar Gyngor Gwynedd i beidio parhau i dalu Ystad y Goron
'Anfoesol': Galw ar Gyngor Gwynedd i beidio parhau i dalu Ystad y Goron
Yn ymestyn dros 180 milltir, mae Gwynedd yn enwog am arfordir hardd. Mae'n denu miloedd bob blwyddyn. Mae 'na bris i'w dalu am hynny.
Y rheswm? Stad y Goron sy'n berchen ar gyfran o'r tir.
"Bob blwyddyn 'dan ni'n rhoi oddeutu £160,000 i gael mynediad i'n traethau a nifer o bethau eraill.
"I ni, Cyngor Sir sydd wedi gweld cyllideb yn cael ei thorri bob blwyddyn mewn termau real, mae'n eithaf anfoesol yn enwedig pan 'dan ni'n wynebu toriadau a phan mae elw Ystad y Goron wedi dyblu yn y flwyddyn ddwetha."
Mae'r pris mae'r Cyngor yn talu i Stad y Goron i sicrhau mynediad cyhoeddus i rannau o'r arfordir yn amrywio.
Ar flaen traeth Bangor mae'r cyngor yn talu £35 y flwyddyn i ganiatau mynediad.
Yma ym Mhwllheli mae'r gost ar gyfer tir hafan y dref yn uwch. Dros £140,000 y flwyddyn.
Beth ydy'r farn ar strydoedd y dref?
"Dach chi di gweld faint maen nhw'n gael gan drethdalwyr y wlad 'ma? Dim jyst ni Cymru, Saeson hefyd!"
Dach chi'm yn teimlo bod o'n deg?
"Arglwydd, nac ydy, siwr Dduw."
“The Crown does own a lot of land. As long as we do the right thing with that place, it's rent.”
“Mae rhywun yn edrych o gwmpas Pwllheli a threfi eraill 'sa ti'n meddwl tybed fuasai'r arian o ddefnydd i'r gymuned? Bysan. Bydden ni'n gallu elwa ohono fo."
Mae gwerth dros £600 miliwn o dir ar draws Cymru ym meddiant y goron. 65% o'r arfordir a hyd at 12 milltir oddi ar y tir a gwelyau afonydd.
Arian sydd wedyn yn cyrraedd coffrau'r wladwriaeth.
“Ystad y Goron yw'r tiroedd sy'n eiddo i'r goron. Nid unrhyw frenin neu frenhines yn bersonol.
"Mae'r incwm sy'n dod o'r tir yn mynd tuag at gynnal y goron a'r Llywodraeth a chanran ohono yn mynd i gynnal y teulu brenhinol."
Mae rhan o'r cynnig sy'n cael ei gyflwyno i Gyngor Gwynedd yn galw am ddatganoli rheolaeth y tiroedd yna a'r elw i Lywodraeth Cymru. Mae'r cynnig yn un dadleuol.
"Pan dw i'n siarad a cwmniau sydd yn moyn dod i Gymru i fuddsoddi mewn diwydiant gwyrdd, so nhw'n son am ddatganoli Stad y Goron.
"Maen nhw'n son am gynllunio a chyflawni cynllunio yng Nghymru. Sut gallwn ni gael pobl a sgiliau gwyrdd?
"'Na beth sy'n poeni nhw, ddim datganoli Ystad y Goron."
Mewn ymateb i gynnig cynghorwyr Gwynedd dywedodd llefarydd ar ran Ystad y Goron eu bod nhw'n gweithio yn agos a Llywodraeth Cymru i sicrhau bod nhw'n creu gwerth ariannol, amgylcheddol a chymdeithasol nawr ac yn y tymor hir.
Bydd Cyngor Gwynedd yn trafod y cynnig dydd Iau.
Cyfle o'r newydd i ddadlau am hen drefn.