Gwynedd: Dileu rheol ddadleuol Erthygl 4 yn sgil penderfyniad yr Uchel Lys

28/11/2025

Gwynedd: Dileu rheol ddadleuol Erthygl 4 yn sgil penderfyniad yr Uchel Lys

Ni fydd modd i Gyngor Gwynedd barhau i wneud defnydd o reol ddadleuol i geisio rheoli nifer yr ail gartrefi yn y sir am y tro wedi gwrandawiad yn yr Uchel Lys ddydd Iau. 

Roedd yr achos yn ymwneu â diwygiadau i ddeddfwriaethau cynllunio, a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru.

Roedd y diwygiadau yn golygu bod yn rhaid i berchnogion dderbyn caniatâd cynllunio cyn newid defnydd eiddo preswyl i fod yn ail gartref, llety gwyliau tymor-byr neu ddefnydd cymysg penodol.

Cyngor Gwynedd oedd y cyngor cyntaf yng Nghymru i gyflwyno’r newidiadau, ym mis Medi 2024.

Ond roedd ymgyrchwyr a oedd yn feirniadol o’r polisi wedi apelio yn erbyn cyflwyno Erthygl 4, gan ennill her gyfreithiol ym mis Medi eleni.

Bryd hynny fe wnaeth gyda’r barnwr ddyfarnu o blaid yr ymgeisydd, Enlli Angharad Williams.

Roedd Ms Williams yn honni fod y cyngor wedi “camarwain” aelodau'r cabinet wrth gyflwyno Erthygl 4.

Ac mewn gwrandawiad yn yr Uchel Lys ddydd Iau, penderfynodd barnwr bod y penderfyniad blaenorol i ddiddymu'r mesur yn dal yn ddilys.

O ganlyniad bydd mesur Erthygl 4 yn cael ei ddileu ar unwaith.

Roedd Cyngor Gwynedd wedi gwneud cais ar lafar i apelio’r penderfyniad, ond cafodd ei wrthod.

Mae'r cyngor bellach wedi dweud eu bod yn bwriadu apelio'r penderfyniad yn ysgrifenedig yn fuan.

"Fel Cyngor, rydym yn benderfynol o wneud popeth yn ein gallu i sicrhau fod gan bobl Gwynedd fynediad at dai addas yn eu cymunedau," meddai llefarydd.

"Dyna pam yr ydym wedi cymryd cyfres o gamau rhagweithiol – gan gynnwys cyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4 – i reoli’r nifer sylweddol o gartrefi sy’n cael eu colli i fod yn ail gartrefi neu’n lety gwyliau tymor-byr.

"Dangosodd ymchwil cyn cyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4 fod 65% o aelwydydd Gwynedd wedi’u prisio allan o’r farchnad dai, gyda’r broblem yn hyd yn oed fwy difrifol mewn cymunedau lle mae cyfran uchel o dai gwyliau.  

"Rydym yn hynod siomedig gyda phenderfyniad y Barnwr i wrthod ein cais ar lafar am yr hawl i apelio ei ddyfarniad. 

"Byddwn felly’n bwrw ymlaen i gychwyn proses apêl ysgrifenedig i amddiffyn ein penderfyniad fel Cyngor i gyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4 yng Ngwynedd."

Mae’r ymgyrchwyr wedi croesawu y penderfyniad gan ddweud bod y cyngor wedi gweithredu yn anghyfreithlon.

Fe ddywedon nhw fod Erthygl 4 wedi diflannu am y tro a’u bod yn gobeithio na fydd Cyngor Gwynedd yn defnyddio rhagor o arian cyhoeddus ar hyn.

Y cefndir

Roedd yr achos yn ymwneud â sut yr oedd modd defnyddio Erthygl 4.

Yn ôl her gyfreithiol Pobl Gwynedd yn Erbyn Erthygl 4, roedd adroddiad a dogfennau gan swyddogion y cyngor wedi “camarwain aelodau’r cabinet yn sylweddol.”

Dywedodd y barnwr ym mis Medi eleni nad oedd y dogfennau wedi egluro mai dim ond mewn achosion lle'r oedd newid yn nefnydd tai yn sylweddol oedd rhaid i berchnogion tai geisio am ganiatâd cynllunio dan erthygl 4.

Yn flaenorol, roedd y dogfennau wedi rhoi’r “argraff anghywir" i aelodau’r cabinet "y byddai pob newid yn cael ei reoli”.

Ar sail hynny, roedd yr penderfyniad a wnaed gan y cabinet wedi’i lywio gan wybodaeth “camarweiniol”, yn ôl y dyfarniad.

Dywedodd Mr Eyre: “Roedd angen gwneud aelodau'r Cabinet yn ymwybodol nad oedd y cyfarwyddyd erthygl 4 yn dod â newidiadau defnydd ansylweddol o fewn cwmpas rheolaeth gynllunio. 

“Ni wnaeth y papurau hynny ond yn hytrach, wrth eu darllen, maent yn rhoi'r argraff anghywir y byddai pob newid yn cael ei reoli. 

“Roedd cyfeiriadau dro ar ôl tro yn y dogfennau a'r unig ddarlleniad realistig oedd bod pob newid yn cael ei reoli. 

“Mae hefyd yn werth nodi bod y llythyr a anfonwyd at drigolion yn dweud y byddai angen caniatâd cynllunio ar gyfer unrhyw newid defnydd."

‘Ni fydd gennym gymunedau ar ôl’

Mae grŵp sy’n ymgyrchu i sicrhau tai fforddiadwy i bobl yn eu cymunedau wedi dweud eu bod wedi eu siomi gan y penderfyniad i ddiddymu Erthygl 4.

Dywedodd Mared Llywelyn o’r grwp Hal i Fyw Adra bod y mesur “wedi llwyddo i arafu’r cynnydd di-ben-draw mewn ail gartrefi a lletyau gwyliau” ac wedi bod yn rhan hollbwysig o alluogi pobl leol i brynu tŷ.

“Mae ail dai a lletyau gwyliau yn cael effaith andwyol ar gymunedau,” meddai.

“Heb osod cap ar ail dai a lletyau gwyliau, ni fydd gennym gymunedau ar ôl a bydd y Gymraeg yn edwino fwy fyth.

“Mae Erthygl 4 yn synnwyr cyffredin ac mae’n angenrheidiol oherwydd mae’n atal sefyllfa ymhle gall pob tŷ, mewn egwyddor, droi yn dŷ gwyliau. 

“Mae Erthygl 4 yn bosib i’w gyflwyno’n gyfreithiol wedi i’r broses gywir gael ei dilyn – mae’n biti ei bod yn ymddangos na wnaed hynny a bod yr holl waith caled wedi cael ei ddadwneud

“Er gwaetha’r newydd heddiw, byddwn yn pwyso i gael Erthygl 4 yn ôl mewn grym.”

'Angen'

Mewn ymateb i'r penderfyniad i wrthdroi mesur Erthygl 4 Cyngor Gwynedd, dywedodd Jeff Smith, Cadeirydd Grŵp Ymgyrchu Cymunedau Cymdeithas yr Iaith:

"Mae hi'n siomedig iawn fod y mesur blaengar, democrataidd yma i ddechrau mynd i'r afael â'r argyfwng tai yng Ngwynedd wedi cael ei wrthdroi gan benderfyniad barnwr, ac hynny ar sail technegol.

"Mae gwaith ymchwil Cyngor Gwynedd yn dangos nad yw mwyafrif poblogaeth y sir yn gallu fforddio cystadlu yn eu marchnad dai eu hunain, sy'n dangos yr angen am weithredu.

"Mae mynd i'r afael â'r gormodedd o ail dai yn rhan o'r ateb i amddiffyn dyfodol cymunedau Cymraeg naturiol yng nghadarnleoedd yr iaith."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.