'Anhygoel': Grŵp hip hop sy'n rapio mewn Gwyddeleg yn 'cynnig rhywbeth newydd' i'r iaith
Mae grŵp hip hop sy'n rapio mewn Gwyddeleg yn "cynnig rhywbeth newydd" i'r iaith, yn ôl athro o Brifysgol Caerdydd wrth iddyn nhw berfformio yn y brifddinas yr wythnos hon.
Fe gafodd Kneecap ei sefydlu yn Belfast yn 2017 gan Mo Chara, (Liam Óg Ó hAnnaidh), Móglaí Bap (Naoise Ó Cairealláin) a DJ Próvaí (JJ Ó Dochartaigh).
Mae’r triawd wedi dod i’r amlwg eleni gydag albwm newydd, taith o amgylch y Deyrnas Unedig a'r Unol Daleithiau a ffilm rhannol hunangofiannol.
Yn rapio mewn Gwyddeleg a Saesneg, mae peth o ddeunydd y triawd yn sôn am y Trafferthion, y cyfnod o wrthdaro treisgar rhwng 1968 a 1998 yng Ngogledd Iwerddon.
Roedd y gwrthdaro rhwng unoliethwyr, oedd yn dymuno i'r dalaith barhau i fod yn rhan o'r Deyrnas Unedig, a chenedlaetholwyr oedd eisiau i Ogledd Iwerddon i ddod yn rhan o weriniaeth Iwerddon.
Un gafodd ei eni ar aelwyd Brotestanaidd yno yn y 1960au ac felly'n gwybod faint o bwnc llosg yw'r iaith Wyddeleg yn y dalaith yw Diarmait Mac Giolla Chriost, sydd bellach yn Athro yn Ysgol Gymraeg Prifysgol Caerdydd.
Wrth siarad ar Bwrw Golwg BBC Radio Cymru ddydd Sul, rhaglen wythnosol sy’n trafod materion moesol a chrefyddol, dywedodd yr Athro Mac Giolla Chriost fod y grŵp yn “cynnig rhywbeth newydd” i'r iaith Wyddeleg.
“Mi nes i glywed am Kneecap am y tro cyntaf ‘chydig o flynyddoedd nôl. Roedd dipyn o controversy am y band, yr enw ac am gynnwys rhai o’u caneuon, oedd yn wleidyddol iawn,” meddai..
“Maen nhw’n llawn hwyl ac maen nhw’n cynnig rhywbeth newydd a gwahanol i’r iaith Wyddeleg. Ac mae’r ffaith bod nhw’n trin trafferthion Gogledd Iwerddon gyda hiwmor yn weddol newydd, felly o ran hynny, mae’n rhywbeth i’w groesawu.”
‘Anhygoel’
Yn ôl Betsan, sy’n astudio Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Queen’s Belfast, mae cerddoriaeth y grŵp wedi cael effaith “anhygoel”.
“Fi’n credu mae effaith eu cerddoriaeth ar y gymuned yng Ngogledd Iwerddon yn anhygoel achos dim ond yn 2022 oedd y ddeddf ‘di nabod yr iaith [Gwyddeleg] fel iaith swyddogol,” meddai.
“Felly mae be maen nhw wedi ei wneud i’r gymuned Wyddelig mewn ffordd newydd ni 'rioed 'di gweld o’r blaen yn rili positif yn fy marn i.”
Ychwanegodd: “Yn amlwg, mae rhai negeseuon controversial yn y ffilm - fi’n credu mewn lle mae’r iaith a fallai’r hunaniaeth o fod yn Gatholig wedi ei ormesu am gyfnod mor hir ac yn effeithio ddim just eu hunain, eu rhieni nhw, eu cymuned nhw, eu hysgolion ac yn y blaen, fi’n credu bod cael cydnabyddiaeth o’r hunaniaeth a’r crefydd yn dod gyda fe’n rili bwysig.”
Mae'r grŵp yn dweud eu bod nhw’n dod â Phrotestaniaid a Phabyddion gyda’i gilydd yng Ngogledd Iwerddon.
Ond mae Diarmait Mac Giolla Chriost yn credu bod hynny'n ychydig o or-ddweud.
“Mae dweud bod nhw’n dod â Phrotestaniaid a Chatholigion gyda’i gilydd, mae hynna’n dipyn o stretch dw i’n meddwl oherwydd mae miwsig nhw mor wleidyddol, mae hunaniaeth nhw fel grŵp mor neilltuol yn gysylltiedig gyda math o le a math o fyd olwg arbennig.
“Bydd ‘na dipyn o Brotestaniaid sy’n fwy gweriniaethol fel petai, yn fwy traddodiadol, ddim yn gallu uniaethu efo Kneecap. Mae hyd yn oed yr enw yn dweud wbath am pwy ydyn nhw.”
Llun: Michael Cooper / Getty Images