Newyddion S4C

Y Seintiau Newydd i greu hanes wrth herio Fiorentina yn Ewrop

03/10/2024

Y Seintiau Newydd i greu hanes wrth herio Fiorentina yn Ewrop

Bydd y Seintiau Newydd yn herio Fiorentina o'r Eidal yng nghystadleuaeth Cyngres Europa nos Iau.

Eleni yw'r tro cyntaf i glwb o Gymru cyrraedd y rownd grwpiau, tra bod Fiorentina wedi cyrraedd rownd derfynol y gystadleuaeth hon y tymor diwethaf a'r tymor cynt.

Fe fydd yr ornest yn cael ei chwarae yn Stadio Artemio Franchi, sydd yn dal dros 43,000 o gefnogwyr.

Yn eu tair gêm ddiwethaf mae Fiorentina wedi colli i Atalanta, ennill yn erbyn Lazio a chwarae gêm gyfartal gydag Empoli.

Dros y blynyddoedd mae rhai o chwaraewyr gorau'r byd wedi chwarae i'r tîm o ddinas Florence, gan gynnwys Gabriel Batistuta a  Roberto Baggio. 

Maen nhw yn yr 11eg safle yn Serie A ar hyn o bryd, tra bod y Seintiau yn bumed yn y Cymru Premier JD. Ond maen nhw wedi chwarae tair gêm yn llai na'r timau eraill.

Ymhlith chwaraewyr y tîm o'r Eidal mae nifer sydd wedi cynrychioli eu gwlad gan gynnwys Cristiano Biraghi, sydd ag 16 o gapiau i'r Eidal a chwaraewr canol cae sydd â 20 cap i'r Almaen, Robin Gosens.

Hefyd mae cyn golwr Manchester United, David de Gea wedi ymuno gyda'r clwb yn yr haf.

La Viola

Yn cael eu hadnabod fel La Viola, fe fydd cefnogwyr brwd Fiorentina yn disgwyl buddugoliaeth swmpus nos Iau.

Dywedodd y newyddiadurwr pêl-droed yn yr Eidal, Giancarlo Rinaldo wrth Gymdeithas Bêl-droed Cymru mae'n debygol na fydd sêr y clwb yn chwarae.

"Dim diffyg parch i'r Seintiau Newydd, ond dwi'n meddwl y bydd Fiorentina yn defnyddio chwaraewyr yr ail dîm," meddai.

"Mae nifer o chwaraewyr da sydd heb chwarae llawer y tymor hwn ac fe fyddan nhw eisiau profi i'r rheolwr bod nhw'n haeddu chwarae yn gyson.

Dyma fydd gêm gyntaf y Seintiau yn eu hymgyrch yng Nghyngres Europa, sydd yn cael ei chwarae ar ei newydd wedd eleni.

Fe fydd y Seintiau yn chwarae chwe gêm i gyd yn erbyn chwe gwrthwynebydd gwahanol, yn hytrach na mewn grŵp o bedwar gyda thri thîm arall.

Bydden nhw'n chwarae cartref nesaf yn erbyn Djurgarden o Sweden, cyn herio Asatana o Kazakhstan, Shamrock Rovers o Weriniaeth Iwerddon, Panathanaikos o Wlad Groeg ac yna Celje o Slofenia.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.