Newyddion S4C

Cynllun £200m i i wella Maes Awyr Caerdydd yn y fantol

02/10/2024
maes awyr Caerdydd

Mae dyfodol cynlluniau i roi cymhorthdal o dros £200 miliwn i Faes Awyr Caerdydd yn y fantol, wrth i'r llywodraeth wynebu cwestiynau am rai agweddau o'r cynllun.

Cyhoeddodd y Llywodraeth, perchnogion y maes awyr, yn gynharach eleni eu bod nhw'n gobeithio y byddai'r buddsoddiad dros ddeng mlynedd yn helpu i ddenu dwy filiwn o deithwyr y flwyddyn ac yn datblygu cyfleusterau cynnal a chadw, cargo a thechnolegau cynaliadwy.

Ers i'r maes awyr cael ei roi dan berchnogaeth gyhoeddus yn 2013, mae wedi derbyn dros £179 miliwn mewn cymorthdaliadau, gwariant sydd wedi ei feirniadu gan y Ceidwadwyr yn y Senedd, sydd wedi ei ddisgrifio fel "prosiect balchder."

Nawr, mae adroddiad gan yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (y CMA) ynglŷn â'r cynllun cymorthdal wedi mynegi  amheuon am rai agweddau o asesiad Llywodraeth Cymru.

Mae'r CMA'n dweud bod y Llywodraeth wedi bod yn glir ynglŷn â'r polisi mae nhw'n drio gyflawni drwy'r cymorthdal. Ond  yn ôl yr adroddiad, dydyn nhw ddim wedi gwneud digon i egluro beth fyddai'r sefyllfa heb y buddsoddiad.

Yn ogystal, dydyn nhw ddim wedi cymryd digon o ystyriaeth o'r effeithiau posib ar feysydd awyr eraill - yn arbennig Bryste.

Does dim rhaid i'r Llywodraeth i gymryd sylw o adroddiad y CMA ond  dywedodd Rebecca Evans, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio: "Byddwn yn cymryd yr amser angenrheidiol i roi ystyriaeth lawn i asesiad y  CMA ac yn penderfynu a oes angen i ni fireinio ein rhaglen fuddsoddi arfaethedig ar sail yr asesiad hwnnw.

"Byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd maes o law unwaith y byddwn wedi penderfynu ar y ffordd orau ymlaen."  

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.