Becws ym Mhen Llŷn i ddibynnu ar wirfoddolwyr oherwydd costau cynyddol
Bydd becws cymunedol ym Mhen Llŷn yn "rhoi'r gorau i weithio ar y model presennol" gan ddibynnu ar wirfoddolwyr yn hytrach na staff llawn-amser.
Cafodd Becws Glanrhyd ym mhentref Llanaelhaearn ei brynu gan fenter cymunedol Antur Aelhaearn ym mis Tachwedd 2023.
Ers hynny mae'r becws wedi bod yn cyflogi chwe aelod o staff llawn amser, ond am amryw o resymau ni fydd modd i'r cwmni barhau i fasnachu dan y model presennol, medden nhw.
Mewn datganiad ar eu cyfrif X, dywedodd y cwmni bod nifer o ffactorau yn rhan o'r penderfyniad.
"Y bwriad o'r cychwyn oedd parhau â busnes Becws Glanrhyd, ei ehangu a chadw chwech o weithwyr mewn cyflogaeth.
"Yn anffodus ac er i ni ymdrechu yn galed iawn i gynnal y busnes am y 10 mis diwethaf rydym wedi penderfynu bod rhaid rhoi'r gorau i'r busnes ar y model presennol. Bydd yr archebion olaf ddydd Iau 3 Hydref.
"Mae sawl ffactor wedi ein harwain i'r sefyllfa drist yma. Yn bennaf mae hi wedi bod yn anodd iawn cael cytundebau newydd mewn marchnad heriol, mae'r cynnydd mewn costau rhedeg y busnes wedi cynyddu'n sylweddol."
'Hyderus y bydd dyfodol'
Ers bron i 100 o flynyddoedd mae Becws Glanrhyd wedi bod yn gwerthu bara ym Mhen Llŷn.
Ychwanegodd y busnes bod nifer y bobl sydd yn ymweld â'r becws wedi lleihau, a bod hynny hefyd wedi chwarae rhan wrth newid eu ffordd o fasnachu.
Er gwaethaf hyn eu gobaith y bydd modd iddyn nhw barhau i weithio ac y bydd dyfodol i'r becws.
"Mae'r farchnad ei hun wedi lleihau gyda niferoedd sydd yn bwyta bara ac yn dod yma ar wyliau wedi lleihau.
"Rydym yn bwriadu parhau i weithredu fel becws trwy lafur gwirfoddolwyr yn unig.
"Prosiect gwaith, iaith a thai oedd hyn i ni o'r cychwyn ac er bod y sefyllfa yn bell o'r hyn a obeithiwyd amdano rydym yn hyderus y bydd yna ddyfodol i'r becws, defnydd i'r tai a'r siop ymhell i'r dyfodol."
Llun: X / @becwsglanrhyd