Newyddion S4C

'Poeni ydw i': Pryder y cyflwynydd Mari Lovgreen am ffonau clyfar mewn ysgolion

'Poeni ydw i': Pryder y cyflwynydd Mari Lovgreen am ffonau clyfar mewn ysgolion

Mae Mari Lovgreen yn wyneb adnabyddus i nifer yng Nghymru, ond o ddydd i ddydd, mae hi'n fam i ddau o blant ac yn rhannu'r un pryderon â nifer o rieni eraill. 

Er bod plant Mari ym mlwyddyn 5 a 3 yn yr ysgol gynradd ar hyn o bryd, mae'n pryderu am yr hyn sydd i ddod a'r pwysau anochel o orfod penderfynu pryd i roi ffôn i'w phlant. 

Mae Smartphone Free Childhood Wales yn gymuned sy'n ceisio lleihau'r effaith y mae ffonau symudol yn ei gael ar fywydau pobl ifanc. 

Mae'r 'Cytundeb Rhieni Cymru' gan y grŵp yn gytundeb i'w arwyddo gan rieni sy'n awyddus i "ddisgwyl tan mae eu plentyn ym mlwyddyn 9 o leiaf cyn rhoi ffôn clyfar iddynt". 

Un rhiant sydd wedi arwyddo'r cytundeb ydy Mari Lovgreen. 

"Y mwya o rieni sy’n cytuno i fod yn rhan o’r symudiad yma, ma’n mynd i fod yn llai o frwydr, 'di’r plant ddim yn mynd i deimlo’n left out os mai nhw di’r unig un heb smartphone," meddai wrth Newyddion S4C.

"Y syniad ydi bo' nhw ddim angen smartphone, yn enwedig y norm rwan ydy rhoi nhw ym mlwyddyn 7.

"Mae o jyst yn trio stallio hynna rili, dwi’n meddwl unwaith ti’n rhoi smartphone yn eu bag neu yn eu pocad nhw ym mlwyddyn 7 a bo' nhw’n cael mynd a fo hefo nhw drwy’r dydd, sut mae disgwyl i blentyn 10/11 oed fod yn gallu rheoli am ba mor hir ma nhw’n mynd ar eu ffôn? Dydyn nhw ddim.

"Dwi’n meddwl mai brifo nhw ydan ni yn y pen draw."

'Chwilio am atebion'

Mae Mari yn awyddus i bwysleisio nad oes ganddi'r atebion, ond ei bod hi'n awyddus i gychwyn trafodaeth ehangach er mwyn ceisio dod o hyd iddynt.

"Dwi isio pwysleisio bo fi ddim efo’r atebion," meddai.

"Ma’n hawdd i fi rannu fy mhryderon rwan achos mae fy mhlentyn hynaf i ym mlwyddyn 5 ond ma hi’n dechra sôn am pryd mae hi’n cael ffôn felly dwi yn poeni am beth sydd yn mynd i orfod digwydd.

"Felly chwilio am atebion ydw i a dwi jyst isio dechrau sgwrs fwy na ddim byd i ni drio chwilio am yr atebion ma efo’n gilydd, does gen i ddim yr atebion, jyst poeni ydw i." 

Beth ydy polisïau rhai o ysgolion Cymru?

Polisi Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin yng Nghaerfyrddin ynghylch ffonau symudol ydy nad oes unrhyw hawl i ddod â ffôn symudol i'r ysgol i flwyddyn 7-11, heblaw am ambell i eithriad. 

Dywedodd y pennaeth Dr Llinos Jones: "Er mwyn bo’ nhw’n cael seibiant o’u ffonau, achos os y’n nhw’n cario’u ffonau gyda nhw, ma’ ‘na duedd gyda nhw, er bo’ nhw’n addo bo nhw’n troi’r ffôn i ffwrdd, dyw hynny ddim yn digwydd, a’r tuedd wedyn yw bo’ nhw’n or-ddibynnol ar eu ffôn."

Ychwanegodd Dr Jones: "Os bydden i’n cael gwahardd unrhyw beth o ysgol, ffonau bydde fe i fi oherwydd y’n ni’n delio gyda achosion bron bob diwrnod o bethe sydd wedi digwydd y tu allan i orie ysgol a ffonau symudol.

"Ni yn teimlo, ma’ diogelwch y plant yn ein poeni ni oherwydd bod gymaint o fynediad gyda nhw i apiau sydd ddim yn addas ar gyfer disgyblion o’u hoedran nhw."

'Pwyso a mesur'

Mae gan Ysgol Gyfun Gŵyr yn Abertawe bolisi sy'n caniatáu i ddisgyblion ddod â ffôn symudol i'r ysgol, ond bod yn rhaid ei ddiffodd a'i gadw allan o'r golwg yn ystod y diwrnod ysgol, heblaw am ambell eithriad.

Dywedodd y pennaeth Mr Jeffrey Connick: "Ffurfiwyd ein polisi ni drwy ymgynghori gyda rhanddeiliaid yr ysgol, ac oedd hynny yn golygu staff, disgyblion, rhieni a llywodraethwyr ac roedd e'n dangos yn glir bod mwyafrif mo'yn caniatáu ffonau symudol yn yr ysgol ond bod rheolau gyda hynny.

"Ma' rhai yn credu 'falle bod e'n rhwydd i ni ddweud 'Na, ddim ffonau yn yr ysgol' ond dyw e ddim mor rhwydd â 'ny. 

"Mae'r mwyafrif yn dangos bo' nhw mo'yn ffonau a hynny o dan reolaeth, a hyn ar adegau oherwydd rhesymau sy’n diogelu dysgwyr yn enwedig wrth iddyn deithio adref yn y nos." 

Fe wnaeth 800 o bobl ymateb i ymgynghoriad yr ysgol am y polisi yn ôl Mr Connick.

"Ni'n gorfod pwyso a mesur y manteision a'r anfanteision ond dyna'r rheswm y'n ni wedi rhoi polisi yn ei le er mwyn rheoli'r defnydd ac y'n ni hefyd yn gorfod ymateb i ddymuniad ein rhanddeiliaid ni," meddai.

"I rai bobl, mae'n syml, ma' nhw'n declynnau peryglus a 'dyn nhw ddim fod ar dir yr ysgol ond am y rhesymau rwy wedi crybwyll, dyw hi ddim mor ddu a gwyn â hynny, dyna'r broblem. Fel ysgol, byddwn ni yn cadw golwg manwl ar y farn ein rhanddeiliaid a'r drafodaeth genedlaethol."

'Effaith niweidiol ar les dysgwyr'

Polisi Ysgol Bro Hyddgen ym Machynlleth, Powys ydy nad oes hawl i ddisgyblion blynyddoedd 7-11 ddod â ffonau clyfar i'r ysgol.

Mewn llythyr at rieni a gofalwyr, dywedodd y pennaeth Dafydd Jones bod hynny oherwydd bod ffonau clyfar yn gallu "rhoi mynediad heb oruchwyliaeth i'r rhyngrwyd" a bod "nifer y rhieni sy’n adrodd ‘colli eu plentyn’ i isfyd cyfryngau cymdeithasol yn cynyddu’n ddyddiol".

Ychwanegodd y llythyr bod modd i ddisgybl ddod â ffôn ar ei ffordd i'r ysgol ac adref, ond bod angen iddynt roi'r ffôn clyfar yn swyddfa'r ysgol wrth gyrraedd a'i gasglu ar ddiwedd y dydd. 

Mae'r llythyr hefyd yn nodi fod y polisi yn berthnasol ar gyfer ffonau clyfar yn unig, ac bod hawl i ddisgyblion ddod "â ffôn i’r ysgol nad oes modd ei gysylltu â’r rhyngrwyd."

'Bob munud o'r dydd'

Mae Mari yn teimlo bod angen i rieni gydnabod eu bod nhw efallai yn rhan o'r broblem.

"Dwi’n meddwl mai rhan mawr o’r broblem hefyd ydi bod ni fel rhieni wedi arfer cael gymaint o gysylltiad efo’n plant a dan ni bron yn overprotective ag yn mynd yn obsessed efo be ma nhw’n neud bob munud o’r dydd," meddai. 

Aeth yn ei blaen i ddweud: "Os ydy rhieni yn chwarae rhan yn pam bod y ffonau 'ma yn gymaint o broblem, ma' raid i ni drio meddwl am sut fedran ni gymryd mwy o reolaeth o’r peth achos ni ydy’r oedolion, ond mae o’n gur pen go iawn i ddeud y gwir.

"Ma' teenagers wastad yn mynd i fod gamau mawr o flaen rhieni, a dwi ddim yn meddwl bo’ ni fel oedolion hyd yn oed yn gwbod be ma’r ffonau symudol ma yn neud go iawn, pa ddrysau ma nhw yn agor, heb son am blant a phobl ifanc."

'Pwnc pwysig'

Dywedodd llefarydd ar ran Comisiynydd Plant Cymru: "Mae'r mater hwn wedi cael llawer o sylw mewn trafodaethau cyhoeddus ddiweddar, ac mae'n amlwg yn bwnc pwysig. 

"Fodd bynnag, dydw i ddim yn ymwybodol o unrhyw ddata cenedlaethol ar sut mae plant sy'n byw yng Nghymru yn teimlo am ddefnydd ffonau mewn ysgolion, ac rwy'n credu bod angen i unrhyw benderfyniadau cenedlaethol neu leol gael eu llywio gan eu barn."

Ychwanegodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn cydnabod yr effaith y gall technoleg a ffonau symudol ei gael ar iechyd a lles plant a phobl ifanc. 

"Mae gan bron i bob ysgol yng Nghymru bolisïau ar ffonau symudol er mwyn atal eu defnydd nhw yn ystod gwersi, ond mae yna elfen o ddisgresiwn. Gall ffonau symudol gael eu defnyddio i gefnogi dysgu, ac mae'n bwysig fod plant a phobl ifanc yn cael eu dysgu am ddiogelwch ar-lein, gan gynnwys y defnydd o gyfryngau cymdeithasol."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.