Arestio 8 o bobl ifanc yn ardal Cricieth ar ôl achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol
Mae wyth o bobl ifanc wedi eu harestio'r wythnos hon fel rhan o ymgyrch i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn tref yng Ngwynedd.
Mae’r Arolygydd Iwan Jones o Heddlu Gogledd Cymru wedi rhybuddio y byddai’r llu yn parhau i ddefnyddio eu pwerau er mwyn mynd i’r afael ag “ymddygiad annerbyniol” yng Nghricieth.
Cafodd tri pherson ifanc eu harestio yn dilyn achos o ddifrod troseddol yng nghanol y dref ar ddydd Gwener, 27 Medi.
Yn dilyn y digwyddiad hwnnw, fe gafodd swyddogion Heddlu Gogledd Cymru bwerau ychwanegol er mwyn mynd i’r afael a throsedd yn yr ardal.
Cafodd tri pherson ifanc arall eu harestio ddydd Sadwrn a dydd Sul wedi achosion eraill yn ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, ond maent bellach wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth.
Roedd un o’r bobl ifanc eisoes wedi cael eu harestio, wedi iddynt dorri amodau mechnïaeth. Fe ymddangosodd y person ifanc yn Llys Ieuenctid Caernarfon ddydd Llun ac mae disgwyl iddynt ymddangos yno eto yn y dyfodol agos.
Cafodd person ifanc arall ei arestio ddydd Llun ar amheuaeth o ddwyn o siop ac mae wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth gydag amodau penodol.
Roedd swyddogion yr heddlu hefyd wedi arestio dyn ifanc ar amheuaeth o ddwyn ac achosi difrod troseddol oedd yn ymwneud a thri phot planhigion yng nghanol y dref yng Nghricieth.