Newyddion S4C

Dwy Gymraes yn darganfod gwyfyn newydd ar ôl ymweld â Guyana

02/10/2024

Dwy Gymraes yn darganfod gwyfyn newydd ar ôl ymweld â Guyana

Mae teulu ym Mhort Talbot wedi dod o hyd i fath o bryfyn newydd yn eu cartref – a hynny filoedd o filltiroedd i ffwrdd o gynefin y pry yn Ne America. 

Y gred yw bod dau wyfyn ‘clearwing’ wedi cael eu cludo 4,500 milltir o'r jyngl yn Guyana i Dde Cymru yn ddamweiniol, a hynny mewn bag ffotograffydd cyn iddyn nhw ddeor.  

Roedd Daisy Cadet, ecolegydd 22 oed, a’i mam Ashleigh, sy’n ffotograffydd proffesiynol, wedi dod o hyd i’r creaduriaid ar silff ffenestr yn eu tŷ ym mis Chwefror. 

Mae rhai gwyddonwyr wedi dweud bod y digwyddiad “anhygoel” yma’n “herio” unrhyw esboniad “rhesymegol.” 

Dywedodd Daisy Cadet ei bod yn gwybod “ar unwaith” mai gwyfynod ‘clearwing’ oedd y pryfed pan ddaeth hi o hyd iddyn nhw, ond roedd hi'n credu mai rhywogaeth o'r DU oeddent. 

“Doedd y gwyfyn ddim yn hedfan o gwbl – mae’n debyg oherwydd bod y tŷ yn rhy oer ar y pryd, ac roedd y llall wrth ei ochr eisoes wedi marw.

“I fi, mae dod o hyd i wyfyn newydd yn ddigon cyffrous fel y mae, doedd dim syniad ‘da fi ei fod mor anarferol.”
 

Image
Gwyfyn

DNA

Fe wnaeth Ms Cadet rhannu lluniau o’r pryfed ar y cyfryngau cymdeithasol er mwyn ceisio dod o hyd i ragor o wybodaeth, cyn i arbenigwyr o Amgueddfa Hanes Natur gysylltu gyda hi. 

Trwy ddadansoddiad DNA, roedd Mark Sterling a David Lees wedi canfod bod y gwyfynod yn hanu o du allan i’r DU – a’u bod hefyd yn anhysbys i wyddonwyr cyn i’r ddwy Gymraes ddod o hyd iddyn nhw. 

Ar ôl cael gwybod am hynny, fe aeth Daisy Cadet i chwilio trwy’r bag roedd ei mam wedi mynd ag hi ar ei thaith i Guyana, gan ddod o hyd i weddillion cocŵn yno.

'Anhygoel'

Mae’r gwyfynod 18mm o hyd wedi’i enwi’n Carmenta brachyclados.

Mae gan y pryfaid glas a melyn adenydd tryloyw a gwythiennau du.

Y gred yw eu bod wedi goroesi’r gaeaf Cymreig ym mag Ashleigh oherwydd y tymheredd cynnes y tu mewn i'r bag.

Dywedodd Mark Sterling ei fod yn “anhygoel” bod y pâr wedi goroesi er gwaethaf y tymheredd oer y tu allan.

“Mae’n herio unrhyw esboniad rhesymegol.

“Ond tra roedd Ashleigh yn ymweld â'r jyngl cafodd wybod petai hi yn gadael baco i'r ysbrydion byddai'n cael gweld rhywbeth arbennig o brydferth.

“Rydym yn dod i’r casgliad yn ein papur mae'n rhaid bod hwnnw yn faco arbennig iawn!"


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.